Tamed bach mwy

Darganfod Merthyr Tudful


Dewch i ymweld â’n hatyniadau

Os hoffech ddarganfod ein diwylliant a’n treftadaeth gyfoethog neu gyfranogi yn ein canolfannau antur gwych sydd o safon ryngwladol, mae yna ddigonedd o atyniadau i chi ymweld â hwy yn ystod eich arhosiad ym Merthyr Tudful.

Cynlluniwch Eich Trip

Dewch i ymweld â Merthyr Tudful a cherdded ein cymoedd a’n bryniau enwog. Mwynhewch ddiwrnodau unigryw allan ym Mharc a Chastell Cyfarthfa, Redhouse neu Theatr Soar neu dewch i ymlacio a blasu rhai bwydydd sydd wedi ennill gwobrau yn ein dewis helaeth o dai bwyta a chaffis. O’r sawl sy’n ceisio antur i’r sawl sydd eisiau siopa – mae yna rywbeth ar gyfer pawb ym Merthyr Tudful.

Dewch o hyd i rywle i aros

Ble hoffech chi aros dros nos yn Merthyr Tudful? Ble bynnag y byddwch chi'n dewis aros, byddwch chi'n cael croeso cynnes y Cymoedd.

Darganfod Merthyr Tudful

Ein Atyniadau

Dewch o hyd i rywle i aros

Mae yna lawer o lefydd i aros ym Merthyr Tudful, i weddu i wahanol gyllidebau a chwaeth.

Deffrowch i olygfeydd syfrdanol o'r mynyddoedd a’r bryniau gwyrdd y tu allan i'ch ffenestr ystafell wely yn ein hamrywiaeth o dai gwestai, bythynnod a llety hunan arlwyo, sydd wedi'u lleoli yn berffaith ar gyfer cerdded, beicio ac archwilio tirlun hardd y cymoedd.

Dewiswch ymlacio yn ein hamrywiaeth o westai moethus. Mae dewis o blastai, gwestai boutique a gwestai gwledig!

Byddwch wrth galon y cyffro mewn gwesty neu lety gwely a brecwast yng nghanol y tref.

Beth am rywbeth ychydig yn wahanol? Rhowch gynnig ar wersylla o dan y sêr ym un or gwersylloedd?

Mae gormod o ddewis bob amser yn beth da.

 


860,000

Ymwelwyr yn Flynyddol

41

Lleoedd i Aros

15

Atyniadau Mawr

Darganfod Beth sy'n digwydd ym Merthyr Tudful

Y newyddion diweddaraf