Diwylliant ac Threftadaeth

 

Archwilio'r Cymoedd a Newidiodd y Byd

Y mwynau oedd yn llechu dan fryniau De Cymru oedd y brif elfen a hybodd y Chwyldro Diwydiannol yn hanner olaf y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg. Heidiodd miloedd o bobl o bob rhan o gefn gwlad Cymru, o weddill Prydain ac o wledydd y tu hwnt i ganfod gwaith yn y diwydiannau mawr haearn, dur, copr, tunplat a glo yng Nghymoedd De Cymru ac yn y porthladdoedd ar hyd Aber yr Afon Hafren.

Datblygodd cymdeithas newydd lle daeth nifer fechan o ddiwydianwyr pwerus yn hynod gyfoethog, ond lle bu gweithlu a dyfodd yn gyflym yn dioddef gwaith caled a thlodi. Newidiodd De Cymru'n ddramatig o ardal amaethyddol i gymdeithas ddiwydiannol. O ganlyniad, datblygodd undod ymysg y gweithwyr a ganwyd Siartiaeth, undebaeth lafur ac hefyd y mudiad llafur a ddylanwadodd ar ddatblygiad sosialaeth ledled y byd.

Mae'r oes wedi newid. Gwagwyd y meysydd glo, oerodd y ffwrneisi mawrion. Mae uchafiaeth Cymru ledled y byd yn y diwydiannau trwm wedi gorffen am byth. Er bod y mwyafrif o'r creithiau wedi diflannu a'r cymoedd yn wyrdd unwaith eto, gallwch olrhain y cyfnod hwnnw o ddiwydiant arwrol a'r ymdrech ddynol gysylltiedig drwy'r elfennau a adawyd ar ôl yn y tirlun.

Mae'r daflen hon yn tynnu ynghyd y safleoedd hynny ledled De Cymru lle gallwch ganfod rhagor am y diwydiannau hynny a wnaeth Dde Cymru'n enwog. Fe welwch sut y ffynnodd y cymunedau, sut y cludwyd y nwyddau a sut roedd y meistri haearn a'r gweithwyr yn byw. Wrth i chi archwilio rydych yn siŵr o gwrdd â phobl leol fydd yn eich croesawu ac yn adrodd straeon wrthych am eu diwydiannau lleol a'r cyfeillgarwch arbennig oedd yn bodoli (ac sy'n dal i fodoli) yn Ne Cymru

Lawrl wythwch  y daflen hon i gael cyfoeth o syniadau am fannau i ymweld â nhw er mwyn darganfod yr hanes unigryw yma..  

 

Creu Merthyr Tudful
 
 
Merthyr Tudful :
6,000 CC roedd pobl yn byw yn ardal Merthyr Tydful. Mae pennau saethau o Oes y Cerrig a chrochenwaith o’r Oes Efydd a ganfu lleol yn cael eu harddangos ynyr amgueddfa yug Nghastell Cyfarthfa
Prydain Fawr:
500-100 BC Dechreuodd y Celtiaid gyrraedd Prydain. Datblygwyd y Gymraeg o gangen o’r iaith Geltaidd o’r enw Brythoneg.
1AF-10FED Ganrif
 
 
Merthyr Tydful;
69 -960C Roedd Caer Rhufeinig Penydarren yn gartref I dros 500 o filwyr ar safle yn edrych dros Afon Taf.
480 OC Gwnaed Tudful, merch Brychan, Brenin Sir Frycheiniog, yn ferthyr yn ystod cyrch paganaidd. Mae enw Merthyr Tudful yn deillio o’r digwyddd hwn.
Prydain Fawr:
43 OC Meddiannodd y Rhufeiniaid Brydain gan aros you tan 410.
Tua c. 785OC Dechrau adeiladu Clawdd Offa – llinell o bridd a grewyd gan Frenin Mersia I wahanu ei Deyrnas o Gymru.
11EG-17EG Ganrif
 
Merthyr Tydful:
1270 Y Rhufeiniad yn adeiladu Castell Morlais
 
 
Prydain Fawr
1215 Magna Carta
1348-50 Y Pla Du
 
1485 Y Cymro Harri’r VII yn cael ei goroni’n Frenin Lloegr ar ol Brwydr Bosworth
1642-49 English Civil War
18FED Ganrif
 -
Merthyr Tydful:
1759 Nid oedd poblogaeth dyffryn Taf yn fawr ond, o fewn 25 mlynedd, sefydlwyd pedwar gwaith haearn: Dowlais, Plymouth, Cyfarthfa a Phenydarren. Dyma ddechrau ‘Merthyr ddiwydiannol`. Tyfodd y cymunedau a ddatblygwyd o amgylch y gweithfeydd haearn I ffurfio un dref fawr, Merthyr Tudful.
1793 /codwyd y bont tramffordd haearn bwrw a thraphont dwr fwyaf y byd, Pont y Cafnau, i gyflenwi calchfaen a dwr i ‘ Weithfeydd Haearn Cyfarthfa. Mae cerddwyr yn dal i’w defnyddio heddiw.
1798 Agorwyd Camlas Sir Forgannwg o Ferthyr Tudful i Gaerydd. Mae bellach yn rhan o lwybr seiclo a cherdded.
Prydain Fawr:
Tua 1760 Dechrau’s chwyldro diwydiannol
1781 Adeiladu’r Bont Haearn, y bont fwa haearn bwrw gyntaf yn y byd, yn swydd Amwythig
 
19EG Ganrif
 
Merthyr Tydful:
1801 Sefydlwyd Merthyr Tydful felt ref fwyaf Cymru gyda phoblogaeth o 7,705.
1802 Ymwelodd Nelson a Gwaith Haearn Cyfarthfa lle gwnaed magnelau. Yn fuan wedi hynny datblygodd yn waith haearn mwyaf y byd.
1804 Gwnaeth tren locomotif stem cyntaf y byd dynnu llwyth ar hyd tramffordd o Ferthyr I Abercynon. Mae’r llwybr bellach yn llwybr seiclo/cerdded wedi’I enwi ar ol y cynllunydd locomotif Trevethick.
1825 Adeiladwyd Castell Cyfarthfa ar gyfer William Crawshey II.
1831 Gwrthryfel Merthyr: protestiodd gweithwyr ynghylch amodau anfoddhaol a chodwyd baner goch fel eu symbol gwrthryfel. Lladdwyd 24 o bobl a chrogwyd Dic Penderyn am achos honedig o glwyfo milwr. Mae’r Merthyr dosbarth gweithiol hwn wedi’I gofio mewn plac yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful
1841 Adeiladodd Brunel Reilffordd Dyffryn Taf o Ferthyr I Gaerydd
1868 Cysylltwyd rheiffordd o Ferthyr I Aberhonddu. Mae’r ddwy draphont osgeiddig bellach yn rhan o Daith Taf.
1870 Sefydlodd John Hughes o Ferthyr dref Hughesovka yn Rwsia, gan sefydlu gweithfeydd haearn a phyllau glo. Mae bellach yn rhan o ddinas Donetsk yn Ukrain.
Prydain Fawr:
1801 Cyfrifiad cyntaf Prydain
1805 Lladdwyd y Llyngesydd yr Arglwydd Nelson ym mrwydr Trafalgar
1833 Diddymu caethwasiaeth drwy’r Ymerodraeth Brydeinig
1845-52 Newyn tatws Iwerddon
 
1871 Cyfreithloni undebau llafur
1897 Jiwbili Diemwnt y Frenhines Victoria
 
20FED Ganrif
 
Merthyr Tydful:
1900 Daeth James Keir Hardie yn AS
1911 Poblogaeth fwyaf erioed: 80,991
1925 Ganwyd y cynllunydd ffasiwn Laura Ashley yn Nowlais
1927 Etholodd y dref Faer benywaidd, Mary Ann Edwards, cyn I ferched cael hawliau pleidleisio cyfartal.
1939-45 Daeth ffatrioedd yn ystod y rhyfel a chyflogaeth yr oedd mawr ei angen.
1948 Agorwyd Ffatri Hoover, gan gyflogi 350 o bobl.
1957 Creu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
1980 Agor Rheilffordd Mynyddig Brycheiniog
1989 Cau Cloddfa Ddrift Trelewis
1991 Cau Deep Navigation
1993 Cau Taf Merthyr
1997 Adfer cyn safleoedd pyllau glo I greu Parc Taf Bargoed a wal ddringo dan do fwyaf Cymru yn Rock UK Summit Centre.


Prydain Fawr:
1904 Diwygiad crefyddol yng Nghymru
1916 Daith Lloyd George y Cymro cyntaf I ddod yn Brif Weinidog
1930-31 Y Dirwasgiad Mawr
1939-45 Rhyfel Byd II
1948 Dechreuwyd y Gwasanaeth
1984-85 Streic y Glowyr
 
21AIN Ganrif
2008 Cymerodd Cyngor Sir Merthyr gyfrifoldeb dros redeg y Parc.
Atyniadau twristaidd newydd yn cynnwys:
Bike Park Wales, parc beicio mynydd gorau’s DU
Parkwood Outdoors Dolygaer, canolfan gweithgareddau awyr agored ger Cronfa Ddwr Pontsticill
Canolfan Soar, theatre ddwyieithog, siop a chaffi
Pentref Hamdden gyda chanolfan hamdden, parc sglefrio a sinema
Redhouse, canolfan gelfyddydau yny Neuadd Dref ar ei newydd wedd
Ardystio Parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol
 

Last Updated - Gwe - 31 / Mai / 19