Hanes - Digwyddodd Fan Hyn

Digwyddodd fan hyn – cymaint o hanes mewn un ardal fach

Mae hanes lliwgar Merthyr Tudful yn llawer i’r meddwl ei ystyried. O grochenwaith yr Oes Efydd i gaerau Rhufeinig, o nawddsant i gastell Normanaidd, ac o’r gwaith haearn mwyaf a welodd y byd erioed i daith gyntaf y locomotif stêm cyntaf, Gwrthryfel hanesyddol Merthyr 1831, ac o AS Llafur cyntaf Cymru i ethol menyw yn Faer cyn i fenywod gael hawliau pleidleisio cyfartal hyd yn oed...mae llawer iawn i’w ddysgu. Dyma ichi giplun:

7,000BC. Tystiolaeth o weithgarwch Neolithig. Yn y blynyddoedd diwethaf, daethpwyd o hyd i gerrig fflint Neolithig ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.

6,000BC Roedd pobl Oes y Cerrig a’r Oes Efydd yn byw ym mryniau Morlais a Chilsanws – mae pennau saeth a chrochenwaith sydd wedi’u canfod yn lleol i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa.

800BC Codwyd bryngaerau yn ystod yr Oes Haearn.

69-96AD Roedd Caer Rufeinig Penydarren yn gartref i arsiwn o fwy na 500 o filwyr.

480 Cafodd Tudful, ferch Brychan, Brenin Brycheiniog, ei merthyru yn ystod cyrch paganaidd. O’r traddodiad Cristnogol hwn y daw’r enw Merthyr Tudful – sy’n cael ei gofio yn Eglwys Santes Tudful.

1270 Adeiladwyd Castell Morlais – sy’n adfeilion erbyn heddiw – gan Eingl-Norman, un o Arglwyddi’r Mers. Dinistriwyd Castell Morlais yn dilyn brwydr Maes y Faenor ac ar ôl llosgi eglwys wreiddiol y Faenor.

1759 Sefydlwyd Gwaith Haearn Dowlais. Cychwynnwyd ar waith ffwrnais chwyth mewn tri gwaith haearn arall - Plymouth (1763), Cyfarthfa (1766) a Phenydarren (1784). Dyma gychwyn ar ‘Ferthyr Tudful ddiwydiannol’.

1793 Pontycafnau – Codwyd pont dramffordd a thraphont ddŵr o haearn bwrw – credir mai dyma’r hynaf yn y byd – i gario dŵr a chyflenwadau o galchfaen ar draws Afon Taf i Waith Haearn Cyfarthfa. Mae’r bont, sydd ychydig lathenni o lwybr Daith Taf, yn dal i gael ei defnyddio ar droed heddiw.

1798 Agorwyd Camlas Sir Forgannwg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd. O Aberfan drwy Droedyrhiw ac Abercanaid i Rydycar, mae cerddwyr a beicwyr yn defnyddio llwybr y gamlas heddiw fel rhan o Daith Taf.

1801 Dangosodd y cyfrifiad cenedlaethol cyntaf mai Merthyr Tudful yw’r anheddiad mwyaf yng Nghymru, gyda phoblogaeth o 7,705.

1802 Ymwelodd y Llyngesydd Arglwydd Nelson â Gwaith Haearn Cyfarthfa, gwaith haearn mwyaf y byd erbyn hyn, a gwaith pwysig i fuddugoliaeth y Llynges Frenhinol yn ystod rhyfel oherwydd y canonau a’r peli canon a grëwyd yno.

1804 Taith locomotif stêm cyntaf y byd i redeg ar reiliau, gan dynnu llwyth o 10 tunnell o haearn mewn wagenni ar hyd naw milltir o dramffordd newydd a oedd yn cysylltu Gwaith Haearn Merthyr Tudful a Chamlas Sir Forgannwg yn Abercynon. Mae’r llwybr hanesyddol hwn bellach yn llwybr cerdded/beicio a enwyd ar ôl peiriannydd a dyfeisiwr y locomotif, Richard Trevithick.

1825 Adeiladwyd Castell Cyfarthfa ar gyfer William Crawshay II.

1831 Gwrthryfel Merthyr Tudful. Bu pobl y dref yn protestio yn erbyn beilïaid llym, a’r gweithwyr yn erbyn amodau anfoddhaol, gan arwain at wrthdystio a dadarfogi milwyr. Codwyd baner goch. Ymgasglodd y protestwyr o amgylch y Castle Inn. Taniodd y milwyr eu drylliau a lladdwyd sawl un yn y dorf. Yn ddiweddarach, crogwyd Dic Penderyn am yr honiad iddo anafu milwr.

1841 Agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf gan Brunel, gan gysylltu Merthyr Tudful a Chaerdydd.

1868 Adeiladwyd rheilffordd o Ferthyr Tudful i Aberhonddu. Mae iddi ddwy draphont hardd yng Nghefn Coed a Phontsarn, ac mae’r rhain bellach yn rhan o Daith Taf.

1870 Yn y Neuadd Ddirwest (Scala bellach) trefnodd Rose Mary Crawshay y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i drafod y bleidlais i fenywod.

1870 Sefydlodd John Hughes o Ferthyr Tudful dref Hughesovka yn Rwsia, gan sefydlu gwaith haearn a mwynfeydd glo yno. Dyma heddiw yw dinas Donetsk yn yr Wcrain.

1876 Y gantores o Ddowlais, Margaret Watts-Hughes, oedd y fenyw gyntaf i gyflwyno dyfais wyddonol i’r Gymdeithas Frenhinol. Arloesai yng ngwyddoniaeth sain, a dangosodd ddelweddau o’r llais dynol.

1900 Etholwyd James Keir Hardie yn AS ‘iau’ ar gyfer Bwrdeistref Merthyr Tudful. Ym 1906, daeth yn arweinydd cyntaf y Blaid Lafur.

1911 Cyrhaeddodd Merthyr Tudful boblogaeth o 80,991.

1918 Torrwyd record gan bobl Merthyr Tudful drwy godi dros £1,000,000 ar gyfer ymdrech y rhyfel ym mis Mehefin1918, pan ddaeth tanc o’r Rhyfel Byd Cyntaf i’r dre.

1925 Ganwyd y dylunydd ffasiwn, Laura Ashley, yn Nowlais.

1927 Hyd yn oed cyn i fenywod gael hawliau pleidleisio cyfartal, etholwyd Mary Ann Edwards gan y cynghorwyr yn Faer Merthyr Tudful – y fenyw gyntaf erioed i’w hethol i’r swydd.

1948 Agorwyd ffatri Hoover ym Mhentrebach i adeiladu peiriannau golchi i’r byd, wedi’u dylunio yn yr Unol Daleithiau. Cyflogwyd 350 o bobl – yn ddiweddarach, cynyddodd y gweithlu i 10 gwaith hyn.

1957 Crëwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

1989-93 Caewyd Gweithfeydd Glo Ynysowen, Cloddfa Ddrifft Trelewis, Deep Navigation a Taf Merthyr Tudful.

1997 Cafodd safle’r tri gwaith glo eu hadfer i greu harddwch Parc Taf Bargoed. Codwyd datblygiad tai newydd ar safle Ynysowen erbyn hyn.

21af ganrif – Diwydiant trwm oedd hanes y dref, ond twristiaeth, manwerthu, gweithgynhyrchu ysgafn a’r sectorau cyhoeddus a phreifat yw ei phresennol. Bwriwch ymlaen i ddarllen i ddarganfod mwy am Ferthyr Tudful heddiw.

Last Updated - Llun - 28 / Hyd / 19