Traphont Cefn

Darganfod Traphont Cefn

Y draphont yw'r trydydd mwyaf yng Nghymru ac erbyn hyn mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Fe'i dyluniwyd gan Alexander Sutherland ar y cyd â Henry Conybeare ac fe'i hadeiladwyd yn rhannol gan Thomas Savin a John Ward. Yn gynnar yn 1866, wynebodd y prosiect drychineb pan gafodd Savin a Ward anawsterau ariannol a chyfreithiol difrifol. Fe'i cwblhawyd yn y pen draw gyda chymorth Alexander Sutherland. Cynhyrchodd lwybr arall i Ferthyr, gan groesi'r draphont, fel bod y rheilffordd yn osgoi eiddo oedd yn berchen i’r meistr haearn Robert Thompson Crawshay. Fe gostiodd £ 25,000 i'w adeiladu (sy'n cyfateb i £ 2.1 miliwn yn 2016).

Mae'n cynnwys 15 bwa, pob un 39 troedfedd 6 modfedd o led, ac mae’n 770 troedfedd o hyd gyda uchder mwyaf o 115 troedfedd. Bwriedir ei adeiladu'n gyfan gwbl o galchfaen fel Traphont Pontsarn sydd yfagos, ond tarodd streic gan y seiri maen yn Chwefror 1866 a achosodd i'r cwmni brynu 800,000 o frics a defnyddio bricswyr i gwblhau'r 15 bwa. Fe'i cwblhawyd ar 29 Hydref 1866, tair blynedd ar ôl y brif linell a oedd yn ei gysylltu ag Aberhonddu. Teithiodd y trenau olaf dros y draphont yng nghanol y 1960au ac fe ddirywiodd ei gyflwr wedi hynny. Fe'i hadnewyddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyda chymorth grant gan y Loteri Genedlaethol. Mae bellach wedi dod yn rhan o Lwybr Taf, llwybr 8 y Llwybr Beiciau Cenedlaethol.

 

Darganfod Beth sy'n digwydd ym Merthyr Tudful

Y newyddion diweddaraf