Sut i dod i'r Cyrchfan

Car

 

Rydym 20 munud o gyffordd 32, Traffordd yr M4 ac ar drothwy’r drws i Gaerdydd. Mae’r A470 yn ymestyn i’r gogledd ac i’r de ac mae’r A465 (ffordd Blaenau’r Cymoedd) yn mynd i’r dwyrain a’r gorllewin drwy’r ardal felly mae’n hygyrch o bob cyfeiriad. 

 

Bws

 

Mae taith fws sy’n cynnig gwerth da am arian yn dod â chi i orsaf fysiau canol tref Merthyr Tudful.

Mae’r gwasanaeth bysiau eang, ledled yr ardal yn darparu tocynnau diwrnod sy’n cynnig gwerth da am arian. 

Mae’r bws T4 bus, â’i seddi lledr a’i  Wi-Fi, sy’n rhad ac am ddim yn cysylltu Caerdydd â Chanolbarth Cymru ac yn aros ym  Merthyr Tudful, Argae Llwyn Onn a ger gwaelod Pen Y Fan.

 

Traveline Cymru

 

Traws Cymru

 

Awyren

 

Mae Maes Awyr Caerdydd 45 munud i ffwrdd yn y car ac mae’n cynnig hediadau dyddiol o brif gyrchfannau Ewrop. Mae rhwydweithiau ffordd gwych i Fryste, Birmingham, meysydd awyr Heathrow a Gatwick.

 

Maes Awyr Caerdydd

 

Trên

 

Mae trenau cyson o Gaerdydd sy’n brif gyrchfan teithio ar gyfer pob rhan o’r DU. Y pedair gorsaf drên yn yr ardal yw Ynys Owen, Troed-y-Rhiw, Pentrebach a Merthyr Tudful.

 

Trenau Cenedlaethol

 

Llogi Beiciau

 

Er mwyn llogi beiciau. Am syniadau am lwybrau beicio a map beicio, cysylltwch â Gethin MTB.

 

Teithiau

 

Hefyd, mae nifer o dywysyddion proffesiynol yn cynnig teithiau a theithiau cerdded unigryw yn yr ardal.