Ystafelloedd: 5
Prisiau o £160 Aros o Leiaf 2 Noson
Prisiau o £160 Aros o Leiaf 2 Noson
Mae Parkwood Outdoors Dolygaer yn ganolfan weithgareddau awyr agored wedi ei lleoli yn Ne Bannau Brycheiniog, 15 munud mewn car o Ferthyr Tudful. Mae’r ganolfan yn cynnig ystod wych o weithgareddau fel padl-fyrddio, cerdded a chrwydro ceunentydd gydag opsiynau ar gyfer pob oed a gallu.
Mae’r 5 Pabell Luna yn fersiwn gyfoes a moethus o’r Yurt traddodiadol. Gyda lle i 6, mae’r Pebyll Luna yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau mwy, ac mae’r siâp unigryw yn gwneud iddynt sefyll allan. Wedi ei gosod ar ddec pren gyda mur o alwminiwm a chynfas Polycotton, mae’r Pebyll Luna yn addas i’w defnyddio trwy’r flwyddyn, beth bynnag y tywydd!
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024