Cyfraddau -
Lleolir Plas Dolygaer ym Mannau Brycheiniog ryw 6 milltir i’r gogledd o Ferthyr Tudful. Mae’r ganolfan newydd ei hailwampio ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o lety grŵp cyfforddus.
Mae Plas Dolygaer, sy’n agos at Gronfa Ddŵr Pontsticill, ar gael i’w logi’n ddyddiol neu’n wythnosol; mae’r mynyddoedd a’r coedwigoedd gerllaw ac mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac astudiaethau maes. Mae llety ar gael drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnwys cyfleusterau i’r anabl.
Ceir saith ystafell wely sy’n cynnig cyfanswm o 34 gwely. Mae yno wres canolog ac mae wedi ei daclu’n rhagorol. Yn ddiweddar cafodd y cae gwersylla ei ail-osod ac mae’n addas ar gyfer gwersylla ysgafn a thrwm.