Ystafelloedd: 20
Prisiau o £5
Prisiau o £5
Mae maes gwersylla hunangynhwysol nearly wild wedi ei leoli yng nghalon y cymoedd, y tu allan i Fedlinog (CF46 6UF.) Ceir golygfeydd anhygoel o’n maes gwersylla ac mae cymaint i’w wneud yn yr ardal ar gyfer y sawl sydd wrth eu boddau’n mwynhau yn yr awyr agored.
Wedi ei leoli, filltir o wal ddringo Canolfan Rock Uk, mae yma weithgareddau sydd yn cynnwys canŵio, dringo abseilio a llawer rhagor. Mae llawer o deithiau cerdded mynyddig ar gael yma hefyd i chi eu mwynhau.
Gallwch logi pebyll am £20 y noson. Mae cyfleusterau’n cynnwys tap dŵr a portaloo. Y tu hwnt i hyn, mae gwersyllwyr yn hunangynhwysol.
Codir £5 y pen, y noson ac mae plant o dan 10 oed am ddim.Gellir llogi pwll tân ar gyfer eich arhosiad am £5.
Rydym wedi’n lleoli’n uchel ar fferm fynyddig ac mae’r ffordd yn anwastad ond os nad ydych yn teithio mewn sports car isel, mi fyddwch chi’n iawn.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024