Neidio i'r prif gynnwy

Sgubor y Wennol - Y Nyth

  Ystafelloedd: 6

Prisiau o £⁠98 

Dyma le i ymlacio, mwynhau cefn gwlad, cerdded, rhedeg, beicio mynydd, beicio modur. Rydym am annog y rheini sy’n mwynhau’r awyr agored i ddod i ymweld â Chymoedd De Cymru a phrofi’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Mae Bike Park Wales a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ein trothwy felly ceir digon i’w wneud ac mae cefn gwlad diddiwedd yn amgylchynu’r fferm.

 

Treuliodd Craig a Tamsin 3 blynedd o lafur cariad yn adnewyddu’r tŷ hir Cymreig Graddfa III hwn ble y lleolir y pebyll cloch. Maen nhw’n feicwyr mynydd a beicwyr modur oddi ar y ffordd angerddol – y ddau wedi gorffen rali Dakar ac maen nhw’n aml yn cystadlu’n rheolaidd mewn digwyddiadau rhyngwladol. 

 

Rydym wedi’n lleoli ym Mynwent y Crynwyr, sy’n gyfoeth o hanes Cymru - mae’r fferm yn dyddio’n ôl i’r 1600au ac roedd yn lloches ddiogel i’r Crynwyr anghydffurfiol ar y pryd fel man cwrdd ag osgoi erledigaeth. Aeth llawer o’r Crynwyr hynny yn eu blaenau i ymgartrefu yn Pennsylvania.

 

Mae’r golygfeydd o’r fferm yn odidog ac mae’r pebyll yn agos at fferm ddefaid. Mae’r ysguboriau’n gartref hefyd i amrywiaeth anhygoel o adar gyda’r wennol a’r sigl-i-gwt i’w gweld yn aml yn ystod yr haf.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024