Ystafelloedd: 3
Prisiau o £30
Llety gwely a brecwast unigryw yw Twin Trails sydd yn arlwyo’n benodol ar gyfer y rheini sy’n ymweld â BikePark Wales, gan ein bod yn llythrennol wrth stepen eu drws!
Rydym yn cynnig brecwast sylweddol i ddechrau’r dydd, a gwely clyd pan fyddwch yn dychwelyd am noswaith dda o gwsg, yn barod ar gyfer y diwrnod nesaf. Rydym yn cynnig yr holl gyfleusterau ar gyfer cadw beiciau’n ddiogel y tu fewn wedi ei fonitro gan CCTV, offer golchi eich beiciau ac offer golchi dillad i chi eu defnyddio. Mae’r rhain ymhlith yr ychydig o gyfleusterau y gallwn eu darparu i sicrhau bod eich arhosiad yn bodloni, yn gofiadwy ac yn gyfforddus.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025