Cyfraddau -
Ystafelloedd: 7
Prisiau o £59 Y Nos
Mae’r Bedlinog Inn yn llety gwely a brecwast moethus sydd wedi ei leoli ym mhentref hardd Bedlinog.
Mae’n llety heb ei ail. Wedi i chi gyrraedd, byddwch yn derbyn gwasanaeth cyfeillgar a fydd yn sicrhau y byddwch yn mwynhau’ch arhosiad yn ein Llety Gwely a Brecwast moethus. Mae’r dafarn wedi cael ei hadnewyddu i’r safon uchaf posib.
I lawer o westeion, yr hyn sy’n gwneud eu harhosiad yn y Llety Gwely a Brecwast hwn mor arbennig yw’r manylion bychan y maent yn eu cynnig i’w gwesteion er mwyn sicrhau eu bod yn mwynhau eu harhosiad. Mae teimlad moethus y dillad gwely a’r tywelion sydd o’r ansawdd gorau, y diodydd a’r byrbrydau bychan sydd am ddim yn yr ystafell a’r nwyddau tŷ bach arbenigol yn fanylion sy’n gwneud y Llety Gwely a Brecwast hwn yn le arbennig iawn.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025