Cyfraddau -
Ystafelloedd: 3
Prisiau o £150 Fesul Uned Y Noson
Mae Flora’s yn gaban pren moethus ac yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau rhamantus, pen-blwydd neu i ddianc rhag y prysurdeb a chanfod darn bach o baradwys. ❤
Mwynhewch ein caban sydd wedi cael ei gynllunio’n arbennig a’i ddodrefnu i’r safon uchaf. Mae’n cynnwys cegin unigryw a phwrpasol, ystafell ymolchi foethus ac ardal fyw/cysgu. Mae’r offer yma i gyd yn ogystal â theledu ychwanegol â NetFlix, Amazon a YouTube. Mae nwyddau moethus eraill ar gael i’w prynu.
Ymlaciwch mewn un o ddwy ardal eistedd fawr ar y balconi lle y gallwch ryfeddu at y golygfeydd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu. Rydym yn croesawu cŵn felly mae croeso i chi ddod â’ch anifeiliaid anwes ac ymlacio, gan wybod eu bod hwy’n mwynhau eu hunain hefyd!
Wedi ei leoli ym mhentref Pontsticill, mae Flora’s yn agos at nifer o deithiau cerdded arbennig ac mae nifer o weithgareddau awyr agored i’w gwneud ar stepen eich drws. Gallwch ddewis o deithiau cerdded tywys, llogi beiciau mynydd, abseilio, hwylio, dringo, padlfwrddio a nifer o weithgareddau eraill yn yr awyr agored - mae pob dim yma yn aros amdanoch!
Mae’n daith 15 munud mewn car i frig copa uchaf De Cymru - Pen-y-Fan, neu gallwch brofi ardal y sgydau yn y Glyn neu yn Ystradfellte. Gallwch hefyd brofi gwefr Canolfan Bike Park Wales a Zip World. Gallwch fwynhau treftadaeth gyfoethog Merthyr Tudful trwy ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa neu un o’r henebion lleol ar Daith Taf.
Er ein bod wedi’n lleoli mewn man gwledig, rydym hefyd yn agos at ddinasoedd Caerdydd ac Abertawe lle y gallwch fwynhau prysurdeb diwrnod o siopa neu ddianc i arfordir creigiog Penrhyn Gŵyr.
Rydym yn cynnig profiad unigryw a gallwn sicrhau rhagoriaeth!
Parcio ar y safle.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025