Neidio i'r prif gynnwy

The Roost Merthyr Tudful Cyf

Mae’r Roost yn safle glampio bychan gyda chabanau cyfforddus a chyfleusterau sy’n dod a thu allan i fewn.

 

Mae ein lleoliad yn berffaith ar gyfer beicwyr mynydd, cerddwyr, beicwyr a phobl sy'n hoff o'r awyr agored.

 

Mae ein cabanau cynnes, clyd yn cysgu dau oedolyn a dau blentyn. Mae ganddyn nhw welyau bync cyfforddus, mawr (4 troedfedd) (mae digon o le i 1,ond yn glyd i 2). Mae gan ein cabanau gwreiddiol gynteddau storio yn y cabanau lle gallwch hongian eich beiciau a gosod eich gêr gyda chegin ac ystafell gawod ar wahân.

 

Mae gan ein caban ensuite gegin fach a storfa feiciau ar wahân y gellir ei chloi.

Mae’r Roost Merthyr Tudful yn Safle Glampio Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru ac mae wedi ennill gwobrau croeso Beicwyr a Cherddwyr.

 

Byddwn yn parhau i wneud cymaint ag y gallwn i wneud y Roost mor gynaliadwy â phosibl ac rydym newydd ennill ein Bathodyn Addewid Twf Gwyrdd. I ddarganfod mwy am ein dulliau cynaliadwyedd dilynwch y ddolen hon.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025