Neidio i'r prif gynnwy

Ysgubor y Wennol – Y Parlwr Godro

Dyma le i ymlacio, mwynhau cefn gwlad, cerdded, rhedeg, beicio mynydd, beicio modur.

 

Rydym am annog y rheini sy’n mwynhau’r awyr agored i ddod i ymweld â Chymoedd De Cymru a phrofi’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Mae Bike Park Wales a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ein trothwy felly ceir digon i’w wneud ac mae cefn gwlad diddiwedd yn amgylchynu’r fferm.

 

Treuliodd Craig a Tamsin 3 blynedd o lafur cariad yn adnewyddu’r tŷ hir Cymreig Graddfa III hwn ble y lleolir y pebyll cloch. Maen nhw’n feicwyr mynydd a beicwyr modur oddi ar y ffordd angerddol – y ddau wedi gorffen rali Dakar ac maen nhw’n aml yn cystadlu’n rheolaidd mewn digwyddiadau rhyngwladol. 

 

Hen feudy wedi ei addasu’n brydferth gyda llawr mezanîn a chegin/ lle bwyta / lolfa agored.

 

NODWEDDION:

 

Rydym wedi’n lleoli ym Mynwent y Crynwyr, sy’n gyfoeth o hanes Cymru - mae’r fferm yn dyddio’n ôl i’r 1600au ac roedd yn lloches ddiogel i’r Crynwyr anghydffurfiol ar y pryd fel man cwrdd ag osgoi erledigaeth. Aeth llawer o’r Crynwyr hynny yn eu blaenau i ymgartrefu yn Pennsylvania.

 

Mae’r golygfeydd o’r fferm yn odidog ac mae’r pebyll yn agos at fferm ddefaid. Mae’r ysguboriau’n gartref hefyd i amrywiaeth anhygoel o adar gyda’r wennol a’r sigl-i-gwt i’w gweld yn aml yn ystod yr haf.

 

MANION YCHWANEGOL

BLWCH BRECWAST

Coginiwch eich brecwast eich hun - £7.50 y person, mae’n cynnwys: grawnfwyd, llaeth, sudd, bara, selsig, wyau a ffa

 

CINIAWA GER Y TAN

Ciniawa ger y tân (isafswm o ddau berson). Beth am drefnu profiad glampio syml a moethus i chi eich hunan? Trefnwch fod pryd o fwyd cartref blasus yn cael ei anfon i’ch pabell. Perffaith i’w fwynhau ger tân y gwersyll ac wedi ei ddarparu’n arbennig i Swallow Barn Wales.

Fireside Dining Experiences – 42 CATLES. Rhaid archebu’r bwyd o leiaf 7 diwrnod cyn eich arhosiad (cysylltwch yn uniongyrchol gyda Fireside Dining)

 

GWEITHGAREDDAU SYDD AR GAEL AR Y FFARM

Mae nifer o lwybrau cerdded a beicio ffantastig yn yr ardal. Mae gennym ystod o lwybrau a mapiau ar y ffarm. Rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025