Ystafelloedd: 6
Prisiau o £86
Mae’r 'Bee Hive' yn llety dau lawr yng nghanol tref Merthyr Tudful sydd wedi ei lleoli yng nghalon cymoedd De Cymru. Mae’n ddelfrydol ar gyfer gwesteion sydd am ymweld â Merthyr Tudful a’r cyffiniau mewn car neu drwy ddefnyddio gorsaf fysiau a threnau canol y dref (sydd dafliad carreg o’r llety.) Ceir cysylltiadau â Chaerdydd, Pontypridd, Abertawe, Aberhonddu ac ardaloedd eraill.
Mae’r llety’n cynnwys cegin, ystafell aml-bwrpas a lolfa sydd â theledu 50". I fyny’r grisiau, mae 2 ystafell wely ac ystafell ymlochi â chawod fawr. Yn y cefn, ceir parcio oddi ar y stryd, gyda’r nosau yn ogystal â stordy didogel sy’n addas ar gyfer 5 beic mawr ac sydd wedi’u diogelu â system teledu cylch cyfyng.
Yma, yng nghanol y dref, mae llawer o gaffis, tai bwyta a siopau manwerthu ac un o’n ffefrynnau yw’r 'Busy Bee Fish Bar & Cafe' sydd wedi bod yn y dref ers 35 mlynedd ac sy’n gweini bwyd da trwy’r dydd. Mae gwir werth ymweliad yn ystod eich arhosiad. Mae yma Superbowl, canolfan hamdden a sinema oddeutu 5 munud o gerdded, gerllaw.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025