Neidio i'r prif gynnwy

Bwthyn Dan Y Coetir

Mae porthdy Dan Y Coetir yn fwthyn glöwr prydferth a chlyd iawn sy’n Rhestredig Graddfa 2 ac yn dyddio o ddechrau’r 18g ar deras led-wledig yn Heol Gerrig ger Merthyr Tudful.

 

Mae’r llety gwyliau hunan ddarpar hwn mewn lleoliad delfrydol i archwilio cefn gwlad godidog De Cymru.

 

Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys ystafell gynllun agored fawr i fyw a bwyta â chegin: â theledu mawr sgrin wastad freeview/smart, chwaraewr Blue Ray , WiFi, socedi USB, ardal gegin â phopty a hob trydan, microdon, rhewgell/oergell, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi a sychu dillad. Ystafell ymolchi â chawod fawr, toiled a basin.

 

Ystafell wely i ddau ar y llawr gwaelod sy’n heddychlon braf ac wedi ei haddurno’n foethus â dillad gwely o ansawdd uchel, wardrob ac unedau ochr y gwely â lamp a theledu. Golygfeydd yn edrych dros yr ardd ffrynt.  

 

Wrth gamu i fyny ‘r grisiau ar y staerau sbiral serth a gwreiddiol fe ddewch o hyd i ystafell wely foethus, a all fod â dau wely neu un gwely maint brenin os yw’n ofynnol, eto, mae’n heddychlon ac wedi ei dodrefnu’n foethus â dillad gwely o ansawdd uchel, wardrob ac unedau ochr y gwely â lamp a theledu smart a golygfeydd tuag at flaen y tŷ. Mae gan yr ystafell hon hefyd olygfeydd o’r awyr drwy’r ffenestri ar un ochr i’r tŷ (argymhellir gwylio’r sêr gyda’r nos fan hyn). 

 

Mae drysau dwbl yn arwain allan o’r gegin i’r ardal batio â dodrefn gardd pren ar gyfer barbeciw perffaith gyda’r nos. Dewch â’ch dydd i ben drwy ymlacio yng nghynhesrwydd a swigod twb poeth mawr awyr agored yn y bwthyn syfrdanol hwn.

 

Amwynderau: parcio oddi ar y ffordd y tu blaen a garej diogel ar gyfer un car a beiciau. Dillad gwely, tywelion, gwres trydan a Wi-Fi yn gynwysedig, Twb Poeth mawr awyr agored, ardal batio, ardal barbeciw (noder mai dyma’r unig fan y caniateir i chi ddefnyddio barbeciw ar dir yr eiddo) – cyfleusterau golchi ar gyfer beiciau gyda garej diogel sy’n cloi. Dim ysmygu. Lleoliad: tafarn a siopau o fewn pellter cerdded.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025