Ystafelloedd: 2

Prisiau o £⁠80 

Mae Bwthyn Swyddfa'r Post yn swatio ym mhen deheuol Merthyr Tudful. Mae lli i hyd at 5 o westeion, mewn dwy ystafell wely ddwbl.

Mae gan y  brif ystafell wely, wely dwbl eang, a gwely sengl wedi'i wneud â llaw, gyda gwelyau bync Warren Evans o safon yn yr ail ystafell wely.

Rwyf am i westeion gael profiad cartref-o-gartref, felly ar ôl cyrraedd, mae pecyn croeso, gyda bisgedi, rholiau crystiog, wyau, menyn, grawnfwydydd, llaeth, a choffi gourmet, i'ch helpu i ymgartrefu.

Mae yna ddigonedd o atyniadau cyfagos fel Bike Park Wales sydd 10 munud i ffwrdd. Mae Pen-y-Fan a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 25 munud i ffwrdd gyda Zip World Tower tua 30 munud i ffwrdd. Tua’r un pellter mae Parkwood Outdoors Dolygaer, canolfan antur gydag amrywiaeth eang o weithgareddau i deuluoedd a ffrindiau eu mwynhau.

Mae'n rhaid ymweld â Llwybrau Parc Taf Bargoed, tua 5 munud o'r bwthyn. Yno fe welwch ddigonedd o deithiau cerdded fel Taith Gerdded Canolfan y Copa, Taith Gerdded y Llyn a Lets Ride a'r peth gorau yw ei fod AM DDIM. Ger Parc Taf Bargoed mae Canolfan Summit Rock UK gyda'r waliau dringo uchaf, ardal bowldro a chaffi ar y safle.

AWGRYM. Ar gyfer taith llawn golygfeydd, rwy'n argymell teithio ar ffordd  Mynydd Blaenau'r Cymoedd, i gyrraedd bwthyn Swyddfa'r Post, lle mae golygfeydd syfrdanol a chewch gyfarfod  â Cheffylau a Gwartheg gwyllt.