Cyfraddau -
Ystafelloedd: 2
Prisiau o £95 Aros o Leiaf 2 Noson
Mae’n bwthyn 2 ystafell wely clyd (cysgu 3 – 4 o bobl) sydd newydd gael ei adnewyddu mewn lleoliad delfrydol ar gyfer y sawl sydd am ddarganfod Bannau Brycheiniog a’r ardal leol.
Rydym wedi’n lleoli oddi ar Taith Taf yn Abercannaid, felly mae’n daith gerdded fer o Ganolfan Bikepark Wales. Rydym hefyd yn agos i siop y pentref a’r tafarndai.
Gallwch dreulio gyda’r hwyr yn ymlacio ar y patio yn ein gardd fawr. Mae lle yma hefyd i storio’ch beiciau.
Ein Cyfleusterau
Mae gennym ardal fyw, agored sydd yn cynnwys cegin llawn offer a the a choffi am ddim.
Mae yma ystafell wely ddwbl a sengl a gwely dros dro sydd yn addas ar gyfer plentyn neu berson bychan. (Gall y gwely dros dro gael ei osod, os oes angen, yn ardal yr ystafell fyw a darperir dillad gwely ychwanegol.)
Mae’r ystafell ymolchi yn cynnwys cawod y gallwch gerdded i mewn iddi.
Mae parcio am ddim ar y safle, yn y maes parcio ar yr ochr/wrth y cefn.
Rhowch wybod i ni os oes angen gwely teithio, crud Moses neu gadair uchel arnoch.
Nodwch: Ni chaniateir smygu yn y bwthyn ond rydym wedi darparu ardal addas yn yr ardd. Mae yma wres nwy, canolog a lle tân addurniadol. Mae’n flin gennym ond nid ydym yn caniatáu anifeiliaid anwes.
Rhowch wybod i ni os oes angen gwely teithio, crud Moses neu gadair uchel arnoch.
Y Murlun
Teyrnged i hanes y pentref ac i goffau fy niweddar dad-cu, a oedd fel llawer o’i gymdogion yn löwr.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025