Ystafelloedd: 2
Prisiau o £120
Mae Byncws Tŷ Wern yng nghalon cymoedd De Cymru. Mae’r llety wedi ei leoli ar Daith Taf sy’n adnabyddus fel llwybr seiclo ym Merthyr Tudful. Rydym ni union gyferbyn â Chlwb Rygbi Merthyr a adnabyddir fel Ironmen hefyd.
Wedi ei leoli tua 2 filltir o Bike Park Wales neu 5 munud ar feic, a thua 8 milltir o Ben y Fan a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Rheilffordd Mynydd Aberhonddu tua 1 milltir i ffwrdd ac rydym o fewn pellter cerdded i Gastell Cyfarthfa, sy’n dyddio o 2824, Parc Manwerthu Cyfarthfa, Parc Hamdden Rhydycar a gorsaf fysiau a threnau Merthyr Tudful. Mae Caerdydd, ein prifddinas yn daith yrru o ryw 30 munud ar hyd yr A470.
Mae lle i 10 gysgu yn Llety Byncws Ty Wern ac mae’n cynnwys y canlynol:
Mwynderau:
Dyma encil delfrydol i ymwelwyr fwynhau mynd am dro, seiclo, heicio, pysgota, canŵio a gweithgareddau antur. Perffaith i deuluoedd neu grwpiau dreulio amser o ansawdd gyda’i gilydd. Archebwch le i aros am o leiaf 2 noson.
Ni chaniateir anifeiliaid anwes, ac eithrio cŵn tywys.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025