Caban o dan y sêr, anturiaethau anhygoel a choedwig gyfan wrth eich traed. Mae Forest Holidays yn cynnig arhosiad unigryw ym myd natur yn Garwnant, Bannau Brycheiniog.
Dewch i ddarganfod cabanau yng nghanol harddwch naturiol Bannau Brycheiniog, gyda golygfeydd syfrdanol yn gefndir i anturiaethau gwyllt.
P'un a ydych chi'n chwilio am gaban clyd i ddau a chyfle i ymlacio, neu wyliau grŵp yn llawn antur mewn tŷ coed i ddeg— yn naturiol,mae Forest Holidays ticio pob bocs. Mae yma gabanau â thybiau poeth mewn coedwig Gymreif, neu'n uchel ym mryniau Garwnant gyda golygfeydd hudolus o'r dyffryn islaw.
Gyda gweithgareddau a mwy ar gael i'w hychwanegu at eich arhosiad, gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch – o driniaethau sba mewn caban, anturiaethau awyr agored, llogi beiciau a theithiau cerdded bywyd gwyllt. Mae golygfeydd heddychlon, llwybrau troellog a Pharc Cenedlaethol cyfan ar garreg drws eich caban. Ar ôl diwrnod o ddarganfod, ymlaciwch yn eich noddfa dan y sêr. Wedi'r cyfan, mae Garwnant wedi'i leoli o fewn Gwarchodfa Awyr Dywyll, felly dyma'r lle perffaith ar gyfer syllu ar y sêr. Gyda cabanau twb poeth ar gyfer grwpiau, cyplau neu deuluoedd,Forest Holidays yw'r lle delfrydol ar gyfer eich dihangfa nesaf.