Ystafelloedd: 3
Prisiau o £50
Mae 43 BBEscapes yn ddelfrydol ar gyfer gweithio, ymlacio a chwarae. Mae wedi ei leoli 2 funud yn y car o ganol tref Merthyr Tudful a’i siopau a’i thai bwyta. Mae’r llety 10 munud yn y car o Fannau Brycheiniog a’i holl atyniadau a 2 funud yn y car o Ganolfan Bike Park Wales.
Mae’n bleser gennym ddweud ein bod yn croesawu cŵn a phlant. Mae’r llety wedi cael ei ailwampio’n ddiweddar a gall gysgu 6 o bobl.
Mae’r llety wedi ei leoli mewn tŷ teras Cymreig, traddodiadol ac wedi cael ei ailwampio’n ddiweddar i gynnwys 2 ystafell ddwbl ac 1 ystafell sengl yn cynnwys gwelyau bync i oedolion.
Ar y llawr gwaelod, ceir cegin ac ystafell fwyta fechan â soffas lledr a bwrdd bwyta pren ar gyfer 6 o bobl. Mae yma deledu sy’n gweithio ar y we ac mae’r wifi am ddim. Mae’r llety wedi ei ddodrefnu’n fodern â soffas lledr, goleuadau trawiadol ac addurniadau a lluniau diddorol.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025