Neidio i'r prif gynnwy

James’ Place @ Bwthyn y Castell

Mae’r tŷ wedi ei adnewyddu yn gyfan gwbl yn null unigryw a llawn steil James Place. 

Mae lle i 6 gysgu yn y bwthyn ac mae croeso cynnes i deuluoedd a chwn.

 

Mae lawr llawr yn agored gyda lle i 6 eistedd yn gyfforddus yn y lolfa sydd a theledu clyfar. Mae band llydan cyflym am ddim trwy’r bwthyn. Ceir drysau deublyg sy’n agor i ardal fwyta tu allan. 

Mae’r Gegin llawn offer yn cynnwys popty, oergell a rhewgell a phopeth angenrheidiol am wyliau hwylus. Mae’r cypyrddau yn llawn llestri, gwydr a photiau a sosbenni. Gall 6 eistedd o amgylch y bwrdd bwyta sy’n edrych allan trwy’r drysau deublyg dros  ardal yr ardd. 

Lan llofft gellir cael mynediad i ddwy ystafell wely ar ôl dringo'r grisiau wedi ei garpedu mewn carped patrwm croen sebra (cŵl iawn!)  Mae dwy ystafell wely dibwl y gellir eu dodrefnu gyda gwelyau dwbl neu sengl. Mae gwely bync hefyd yn yr ystafell wely fwyaf. 

Mae cawod newydd wedi ei greu gyda chawod y gallwch gerdded i mewn iddo. 

Mae’r ardd yn odidog, ardal allanol wych i blant ac oedolion.

 

Mae ardal fwyta tu allan gyda goleuadau ar raff a thwba poeth a nodwedd ddŵr i ymlacio.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025