Ystafelloedd: 5
Prisiau o £280 Aros o Leiaf 2 Noson
James’ Place @ Parc Beicio Cymru a Bannau Brycheiniog: encil i bob teulu neu grŵp sy’n chiwlio am wyliau.
Mae’r cartref hwn gan James Place wedi ei ailwampio’n llwyr mewn ffordd anarferol, llawn hwyl – dewch i weld ein grisiau o wair!
Gall hyd at wyth person gysgu yn y cartref hwn ac, wrth gwrs, mae croeso mawr i blant a chŵn.
Mae digon o le i wyth person eistedd yn gyfforddus yn y lolfa ac mae yno deledu sgrîn fflat 50”. I’r sawl sydd eisiau, neu sydd angen, cadw mewn cysylltiad â gweddill y byd mae band eang cyflym iawn ar gael am ddim drwy’r tŷ i gyd.
Mae gan y tŷ hwn dair ystafell wely dwbl. Mae un gwely dwbl yn Ystafell Wely 1, mae un gwely dwbl ac un gwely bync yn Ystafell wely 2 ac mae un set o wlâu bync yn Ystafell Wely 3. Mae’r gwlâu bync yn ddigon mawr i oedolion ond gall plant gysgu ynddynt hefyd! Golyga hyn oll bod y tŷ’n gallu cysgu cyfanswm o wyth person neu chwe pherson os ydy pawb yn cael ei wely ei hun. Rydym wedi chwilio drwy’r mân a’r mawr er mwyn dod o hyd i fanylion bach i’w gosod yn yr ystafelloedd i sicrhau y cewch wyliau difyr, bythgofiadwy yma.
Mae yno ystafell gawod newydd sbon gyda digon o ddŵr twym ar gyfer 8 gwestai.
Mae’r gegin yn gyflawn o bob dyfais gyda phentan a ffwrn anwytho, oergell a rhewgell mewn un, peiriant golchi dillad a phob dyfais sydd ei angen arnoch er mwyn i’ch arhosiad yma fod yn hawdd a didrafferth. Mae’r cypyrddau yn llawn llestri, gwydrau, potiau, sosbenni ac offer cegin er mwyn sicrhau bod modd ymateb i ofynion pob gwestai.
Gall wyth person eistedd yn yr ystafell fwyta’n gyfforddus ac rydym wedi ychwanegu ambell i gêm fwrdd er mwyn dod â gwên i’ch wyneb. Cadwch lygad am ein casgliad o hetiau er mwyn i chi allu gwisgo mewn steil ac er mwyn i chi allu bod pwy bynnag yr hoffech fod yn ystod eich gwyliau. Mae ymo hefyd beiriant chwarae recordiau felly gallwch deithio nôl mewn amser a hiraethu am y gorffennol neu ddawnsio’n wyllt i’r gerddoriaeth!!
Adnewyddwyd yr ardd heb arbed unrhyw gost felly mae’r ardal awyr agored yn hyfryd gyda lle diogel i storio eich beic yn ogystal â lle i’w olchi. Mae’r twba twym yn aros amdanoch i orwedd nôl ac ymlacio ynddo. A byddwch wrth eich bodd gyda’r feranda ‘cowboi’, lle gallwch eistedd allan a joio’r olygfa wrth i chi fwynhau prydiau bwyd yn yr haul neu dan y sêr.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025