Ystafelloedd: 1
Prisiau o £85
Mae Ianto yn stiwdio olau ar 2ail lawr, blaen yr adeilad.
Mae yma wely cyfforddus all fod yn wely dwbl neu’n dau wely sengl. Os byddwch yn defnyddio 2 wely sengl, bydd angen i chi archebu’r stiwdio yn un ar gyfer dau o bobl. Darperir dillad gwely a thywelion. Gellir darparu 2 wely ychwanegol fel y gall y stiwdio gysgu uchafswm o 4 o bobl.
Mae’r gegin fechan yn cynnwys pob dim fel man coginio induction, microdon, oergell isel a thostiwr. Mae yma sosbenni, offer, platiau, cyllyll a ffyrc a gwydrau – pob dim ar gyfer coginio.
Mae yma ystafell gawod, ensuite fodern ac rydym yn darparu hylifau ar gyfer y gawod a golchi gwallt.
Mar gan y stiwdio fand llydan cyflym a theledu sydd yn defnyddio’r we fel y gallwch ddefnyddio Freeplay, Netflix neu Prime TV â’ch cyfrif personol. Mae yma stemiwr i waredu rhychau yn eich dillad a sychwr gwallt.
Rydym yn croesawu cŵn.
Bydd peint o laeth yn aros amdanoch yn yr oergell a Phicau ar y Maen a the a choffi i’ch croesawu i Gymru.
Maent wedi eu lleoli mewn man delfrydol er mwyn canfod Bannau Brycheiniog, dringo Pen-y-Fan neu ymweld â Chanolfan Bike Park Wales i enwi ond rhai o’r gweithgareddau gwych sydd gan yr ardal hon i’w chynnig, neu hyd yn oed os ydych yn gweithio i ffwrdd o adre. Maent wedi eu lleoli yng nghanol y dref a munudau’n unig o gerdded o’r brif orsaf drenau a’r orsaf fysiau.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025