Ystafelloedd: 1
Prisiau o £85
Dyma Stiwdio newydd sydd wedi ei chreu a’i steilio yn ôl steil unigryw James' Place sydd yn dod â’r tu allan y tu fewn!
Rydym yn falch i groesau teuluoedd. Mae gwelyau bync, maint oedolion ar gael, yn ogystal â gwely dwbl â dillad gwely, meddal. Mae yma fand llydan cyflym a theledu sydd yn defnyddio’r we.
Gallwch hefyd ddod â’ch ci gyda chi os gwnewch drefniant o flaen llaw. Mae cost fechan ar gyfer y gwasanaeth ychwanegol hwn ac rydym yn darparu Pecyn Croeso i’w gwneud yn gartrefol.
Mae’r gegin fechan yn cynnwys pob dim fel man coginio induction, microdon, oergell, sosbenni, platiau, cyllyll a ffyrc ac offer ac mae yma far brecwast a stolion.
Mae yma ystafell gawod, ensuite fodern a newydd.
Rydym yn darparu hylifau ar gyfer y gawod a golchi gwallt a Phicau ar y Maen a pheint o laeth er mwyn eich croesawu.
Maent wedi eu lleoli mewn man delfrydol er mwyn canfod Bannau Brycheiniog, dringo Pen-y-Fan neu ymweld â Chanolfan Bike Park Wales i enwi ond rhai o’r gweithgareddau gwych sydd gan yr ardal hon i’w chynnig, neu hyd yn oed os ydych yn gweithio i ffwrdd o adre. Maent wedi eu lleoli yng nghanol y dref a munudau’n unig o gerdded o’r brif orsaf drenau a’r orsaf fysiau.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025