Neidio i'r prif gynnwy

La Cantera

Mae La Cantera yn eiddo hunan gynhaliol wedi ei leoli ym mhentref Heolgerrig, ym Merthyr Tudful, De Cymru. Ar un tro roedd yn garej ddwbl sydd wedi ei droi ac yn cynnig golygfeydd hyfryd ac wedi ei leoli’n gyfleus i atyniadau lleol. Mae’n breifat yn heddychlon a gallwch ymlacio mewn eiddo moethus gyda hot tub, tan tu allan a than coed tu fewn.

 

Mae La Cantera yn addas i bawb – yn feicwyr yn ymweld a Bike Park Wales, yn gyplau yn chwilio am wyliau rhamantus, i deuluoedd sy’n archwilio mwy o Dde Cymru, yn gerddwyr sydd am grwydro Bannau brycheiniog a grwpiau o ffrindiau sy’n chwilio am rywle i gael amser da.

 

Rydym yn hynod falch o La Cantera a’r hyn y gall ei gynnig tra byddwch yn aros yma; rydym yn ymfalchio yn ein golygfeydd godidog o Ferthyr Tudful, gan gynnwys Castell a Pharc Cyfarthfa a Phen y fan. Gyda chyfleusterau newydd sy’n cynnwys cegin fodern yn llawn cyfarpar, ystafell ymolchi foethus, a gwely soffa dwbl a gwely mawr y gellir ei droi yn ddau wely sengl.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025