Cyfraddau -
Ystafelloedd: 7
Prisiau o £10 Fesul Person Y Nos
Lleolir Plas Dolygaer ym Mannau Brycheiniog, 6 milltir i’r gogledd o Ferthyr Tudful.
Mae’r Ganolfan sydd wedi ei hadnewyddu’n ddiweddar yn cynnig amrywiaeth eang o lety cyfforddus ar gyfer grwpiau.
Mae Plas Dolygaer ar gael i’w logi ar sail ddyddiol neu wythnosol ac mae’n agos i Gronfa Ddŵr Ponsticill , y mynyddoedd a’r coetiroedd. Mae mewn lle delfrydol ar gyfer gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored ac astudiaethau maes.
Mae llety ar gael trwy gydol y flwyddyn ac mae yma gyfleusterau ar gyfer yr anabl.
Mae yma saith ystafell wely sydd yn cynnig 34 gwely. Ceir yma wres canolog ac mae’n llawn bob math o wahanol offer angenrheidiol.
Mae’r maes gwersylla wedi ei adnewyddu’n ddiweddar ac mae’n addas ar gyfer gwersylla o bob math.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025