Cyfraddau -
Ystafelloedd: 3
Prisiau o £150 Y Nos
Estynnir croeso i chi gan Borthdai Winchfawr. Rydym am gadw ein balchder Celtaidd drwy wneud yn siŵr fod eich arhosiad gyda ni yn un gwirioneddol lawen, perffaith a chofiadwy y byddwch yn ei gofio am byth.
Dyfarnwyd graddfa 4 seren i’n tri phorthdy oddi wrth Groeso Cymru, ac rydym yn cynnig rhywbeth arbennig i’r cwsmer craff. Gallwch fod yn gwbl sicr na chewch chi eich siomi wrth archebu un o’n porthdai. Mae pob un o’n porthdai yn hunan ddarpar ac yn ddi-fwg. Mae ansawdd popeth a ddarparwn o’r safon uchaf ac mae gan bob porthdy cegin hyfryd, ystafell wely ac ystafell ymolchi.
Mae gennym ystafell golchi dillad, peiriant golchi dillad, peiriant sychu, ystafell sychu fawr, sy’n lle gwych ar gyfer sychu dillad gwlyb ar ôl eich gweithgareddau. Hefyd cwt diogel i gadw beiciau mynydd â chyfleusterau golchi â phŵer.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025