Cyfraddau -
Ystafelloedd: 3
Prisiau o £30
Bwthyn glöwr sydd wedi ei ailwampio’n llwyr yw Porthdy Gethin. Cafodd ei adeiladu ym 1865 ac mae yn union ar Lwybr Taf, sef llwybr seiclo enwog, a rhyw 500 llath o fynedfa BikePark Wales. Mae ym mhentref gwledig Abercannaid ar ymylon Bannau Brycheiniog, 3 milltir o Ferthyr Tudful a 22 milltir o Gaerdydd. Ymhlith yr atyniadau lleol mae Parc ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Rheilffordd Fynydd Aberhonddu a Chanolfan Copa Rock UK, gwarchodfeydd natur a llawer mwy. Mae tair ystafell wely gan yr eiddo sy’n cysgu 6. Neuadd fynedfa, ardal lolfa-bwyta, cegin a lle i fwyta, ystafell amlbwrpas, ystafell ymolchi lawr grisiau ac ystafell ymolchi i fyny ‘r grisiau. Ardal balmantog yn y cefn â barbeciw nwy, stepiau sy’n arwain i fyny at ardal batio fawr gyda mynediad i’r garej dwbl, sy’n ddiogel iawn â drysau caeadu rholer yng nghefn y bwthyn.
Cyfleusterau golchi beics a lle diogel i’w cadw.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025