Ystafelloedd: 7
Prisiau o £90
Eiddo llawn steil sydd wedi ei adnewyddu’n ddiweddar ac sydd dafliad carreg o ganol tref Merthyr Tudful. 1 filltir yn unig o Ganolfan Bike Park Wales!
Mae ystafell fyw/fwyta agored a digon o le felly i fwynhau amser gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Mae WIFI cyflym a Netflix yma ond mae croeso i chi ddod â’ch Playstation neu’ch XBox gyda chi petaech yn dymuno gwneud hynny.
Gall yr eiddo hunanarlwyo hwn gysgu uchafswm o 9 o bobl ac mae yma 6 gwely (mae 2 ohonynt yn welyau soffa dwbl.)
Os ydych yma i ymweld â Chanolfan BIKE PARK WALES, mae gennym le diogel i storio’ch beiciau mewn sied sydd â phwyntiau angori (dewch â’ch cloeon eich hunain.) Mae gan y sied larwm, olau sydd yn synhwyro symudiad a dau gamera CCTV gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw’ch beiciau i chi! Mae gennym hefyd dap dŵr a thrydan allanol, Jetwash a stondin feiciau ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Mae gan yr ardd ardal eistedd braf sydd yn ddelfrydol ar gyfer ymlacio yn yr haf ac mae yma fwrdd dartiau a BBQ y gallwch eu mwynhau.
Bydd y tŷ at eich defnydd chi ond gallwch gysylltu â ni, ar unrhyw adeg yn ystod eich arhosiad.
Gerllaw, mi ddewch ar draws Canolfan Siopa Trago Mills, Parc Manwerthu Cyfarthfa, Parc Hamdden Merthyr sydd â sinema, canolfan fowlio, pwll nofio a thai bwyta, Trên Stêm Mynydd Aberhonddu a llawer mwy. Mae dwy orsaf drenau gerllaw; Pentrebach a chanol tref Merthyr. Mae’r tŷ wedi ei leoli ar brif lwybr fysiau a gellir dod o hyd iddo’n hawdd yn y car.
NI YCHWANEGIR UNRHYW FFIOEDD GLANHAU!
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025