Neidio i'r prif gynnwy

Sleepy Stays - 14 Trem Penlan

Mae Sleepy Stays Merthyr Tudful yn cyflwyno llety hyfryd 3-ystafell wely sy’n gallu cysgu hyd at 8 o westai. Fe’i hadnewyddwyd yn ddiweddar er mwyn bod yn gysurus ac yn ddiogel ar eich cyfer.

Dim ond dwy funud o ganol y dre mae’r llety, a phum munud o Bike Parc Wales – y lleoliad perffaith. Mae cwt pwrpasol ar gyfer beiciau ac iddo larwm, sicrhad y bydd eich eiddo’n ddiogel! Dim ond taith fer i ffwrdd yn y car mae Zip world, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chanolfan ddringo Rock UK…

Mae’n daith car dwy funud i Barc Manwerthu Cyfarthfa, Trago Mills neu Barc Hamdden Rhydycar. Mae’n cynnwys popeth o siopau, llefydd i gael coffi, bwytai i bwll nofio, bowlio deg, sinema a llefydd i gasglu pryd o fwyd er mwyn mynd ag ef adre gyda chi.

Mae’r llety hwn ddeng munud o wâc o’r orsaf drenau a wâc pum munud o’r orsaf fysys newydd.

Pam aros mewn tŷ diflas? Mae ein cynllunydd tai wedi gwneud gwaith gwych yn yr ystafell ymolchi ac yn ystafelloedd gwely’r llety hwn, gobeithio y byddwch yn cytuno! Mae gennym gawod bwerus, hyfryd, matresi o safon uchel a band llydan cyflym iawn. Bob dim sydd eu hangen arnoch ar gyfer ymweliad cyfforddus.

Mae Sleepy Stays wastad ar gael i ateb unrhyw ymholiadau sy’n codi yn ystod eich ymweliad neu cyn i chi gychwyn. Rydym yn falch iawn ein bod yn ymateb i ymholiadau mewn chwinciad. Os oes angen un rhywbeth arnoch, rhowch wybod i ni. 

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025