Ystafelloedd: 4
Prisiau o £150
Mae’r lleoliad chwaethus hwn yn berffaith ar gyfer teithiau grŵp i Bike Park Wales neu ymweld a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wedi ei adnewyddu yn barod ar gyfer 2023. Bydd eich arhosiad yn un cyfforddus yma!
Rydym wedi adeiladu storfa feiciau a chyfleusterau golchi. Felly bydd eich beic yn ddiogel tra byddwch chi’n cysgu.
Am archwilio Bannau Brycheiniog? Rydym ychydig filltiroedd i ffwrdd o Ben y Fan a’r Parc Cenedlaethol.
Ar ôl diwrnod prysur yn y parc beiciau neu yn mwynhau yn lleol, gallwch ymlacio a gwylio Netflix. Mae band llydan cyflym yma a theledu 50 modfedd.
1, 2, 3 barod i goginio
Beth am dreulio’r prynhawn yn pobi neu baratoi brecwast tra bo eraill yn sgwrsio rownd y bwrdd.
Yn Sleepy Stays mae ein heiddo yn cael eu glanhau gan lanhawyr proffesiynol ac rydym yn defnyddio dillad gwely o safon gwestai, felly bydd eich arhosiad yn un cyfforddus!
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025