Ystafelloedd: 5
Prisiau o £194 Y Person
31 Y Llwybr, Merthyr Tudful. CF47 8RP
Mae cysur a chyfleustra yn ein Airbnb, 5 ystafell wely sydd mewn lleoliad delfrydol o fewn pellter cerdded i ganol tref Merthyr Tudful a thafliad carreg o Glwb Pêl-droed Merthyr. Mae'r tŷ eang hwn yn cynnwys 1 ensuite a phrif ystafell ymolchi sydd yn sicrhau digon o gyfleusterau ar gyfer eich grŵp. Mwynhewch rhwyddineb parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar sydd yn gwneud eich arhosiad yn ddi-drafferth. Delfrydol ar gyfer mwynhau swyn y dref, cerdded ym Mannau Brycheiniog neu feicio yng Nghanolfan Bike Park Wales. Dyma'r cartref perffaith oddi cartref!
Bydd Sleepy Stays Cyf yn gofyn i chi arwyddo cytundeb rhentu, cyflwyno prawf adnabod a rhoi awdurdodiad o £200 ymlaen llaw o gerdyn debyd neu gredyd o leiaf 24 awr cyn eich arhosiad. Mae'r swm hwn wedyn yn cael ei ryddhau o fewn 48 awr i’w wirio.
Mae uchafswm lle ar gyfer 10 o bobl, gan dybio bod 2 yn rhannu gwely dwbl mewn tair ystafell wely gan fod gennym 6 gwely.
Am fwynhau Bannau Brycheiniog? Mae’n daith fer o Ben-y-Fan a'r Parc Cenedlaethol.
Wedi diwrnod prysur yng Nghanolfan Bike Park Wales neu’n darganfod y mannau prydferth lleol, ymlaciwch a gwylio Netflix. Mae gennym fand eang cyflym a theledu clyfar.Ydych chiu’n barod i goginio? Treuliwch y prynhawn yn pobi neu beth am baratoi brecwast tra bod eich ffrindiau’n eistedd o gwmpas y bwrdd bwyta yn sgwrsio?
Yn Sleepy Stays mae’r eiddo’n cael ei lanhau gan lanhawyr proffesiynol a dim ond dillad gwely ansawdd gwesty y byddwn yn eu defnyddio fel y gallwch fod yn sicr o arhosiad glân a chyfforddus!
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025