Neidio i'r prif gynnwy

Sleepy Stays - 8 Stryd yr Eos, Abercanaid, Merthyr Tudful CF48 1DX

Ymlaciwch yn yr encil unigryw hwn. Neu defnyddiwch y lle i ymweld ag ardal Bannau Brycheiniog, Bike Park Wales neu atyniadau lleol eraill.

 

Cafodd y tŷ cofrestredig hwn ei foderneiddio’n ddiweddar er mwyn eich cysur a’ch diogelwch, gyda gardd brydferth i allu mwynhau nosweithiau braf o haf yn ymlacio gyda gwydraid bach o win neu gwrw.

 

Mae yno gwt beiciau fel bod eich eiddo’n ddiogel tra eich bod chi’n cysgu.

 

Mae’r tŷ wedi ei leoli’n agos at ganol dre Merthyr Tudful, llai na milltir i ffwrdd o Bike Park Wales ac yn agos at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  

 

Gerllaw mae canolfan siopa Trago Mills, Parc Manwerthu Cyfarthfa, Parc Hamdden Merthyr gyda sinema, bowlio, pwll nofio a bwytai, Rheilffordd Mynydd Brycheiniog a llawer yn rhagor.

 

Caiff ein lletyoedd yn cael eu glanhau gan lanhawyr proffesiynol ac rydym yn defnyddio dillad gwely o safon gwesty felly gallwch sicrhau y cewch wyliau glân a chyfforddus yma!

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025