Cyfraddau -
Ystafelloedd: 2
Prisiau o £140
Wedi ei leoli ym mhentref Pontsticill, ym mhrydferthwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r bwthyn hunan arlwyo clyd ond helaeth hwn y lleoliad delfrydol ar gyfer teulu, cwpwl neu rai yn chwilio am antur awyr agored er mwyn darganfod prydferthwch yr ardal. Dafliad carreg o ddwy dafarn ragorol yn cynnig cwrw a bwyd blasus. Mae cyfleusterau eraill ar gael o fewn 10 munud yn y car.
Mae gan ein cwt BBQ seddi dan do i’w mwynhau ym mhob tywydd ac wedi ei addurno i adlewyrchu ei dreftadaeth. Bydd y cwt ar gael i’w logi wrth aros ym Mwthyn y Cerddwyr.
Os nad oes amser gennych i siopa, peidiwch boeni, gallwn archebu pecynnau BBQ a’u rhoi yn yr oergell cyn i chi gyrraedd.
Eisteddwch nôl. Ymlaciwch (ond peidiwch losgi’r selsig!)
Yr anghenion, Offer coginio sylfaenol, Gofod gwaith, Crochenwaith a chyllyll a ffyrc Sychwr gwallt, Gwres a Chegin
Teledu, Wi-Fi, Haearn smwddio, cot teithio, Lle tân, Larwm Carbon Monocsid, offer Cymorth Cyntaf, Larwm Tân
Peiriant Coffi, Peiriant Golchi Llestri, Oergell, Mynedfa breifat, Gardd, Tân tu allan , Dodrefn gardd, Patio neu falconi
Parcio am ddim.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025