Neidio i'r prif gynnwy

The Pencerrig Collection - Ty Bunc

Wedi ei leoli oddi fewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, dyma leoliad grêt i’r rheini sy’n chwilio am weithgareddau awyr agored mewn amgylchedd heddychlon. Yn swatio ym mhentref Pontsticill a chyfagos â chartref y perchennog, mae dodrefn cyfforddus yn y llety gwyliau hwn ac mae’n mwynhau golygfeydd prydferth ar draws y dyffryn.

Wedi ei leoli yn nhref hanesyddol Merthyr |Tudful yn agos i gyfleusterau lleol, mae’r llety un ystafell wely newydd ei adnewyddu hwn yn dyddio nôl i’r 1900au. Mae’ lle i gysgu I 4 mewn gwelyau bwnc ac mae ganddo deledu sgrin fflat, ardal eistedd fodern a chegin. Mae wifi am ddim a digon o barcio yn y stryd.

 

Os ydych yn chwilio am antur beth am i chi fynd i BikePark, Rock UK, Parkwood Outdoors neu ZipWorld mae pob un o fewn 20 munud yn y car.

 

Mae’n ddelfrydol i’r rheiny sydd am archwilio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymoedd De Cymru neu Caerdydd, y Brifddinas, ble gallwch wylio gem ryngwladol yn Stadiwm y Principality,neu dwrnament golf yn y Celtic Manor neu wylio sioe yn un o’r canolfannau celfyddydau.

 

Mae ein heiddo yn cael ei glanhau yn broffesiynol ac yn cynnwys dillad gwely moethus a thywelion er mwyn gwneud eich arhosiad yn un cyfforddus.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025