Ystafelloedd: 2
Yn swatio ym mhentref pert Bedlinog, mae’n heiddo un ystafell wely, a gafodd ei adnewyddu'n ddiweddar i safon uchel ar garreg drws Parc Cenedlaethol trawiadol Bannau Brycheiniog. Mae'n lleoliad tawel lle clywch sŵn carnau ceffylau ond peidiwch â phoeni, rydym hefyd yn agos at siop a thafarn y pentref lleol.
Mae'r ysgubor yn cysgu 2/4 o bobl. Mae gennym wely dwbl i fyny'r grisiau, ystafell ymolchi â thoiled a chawod annibynnol gyda gwely soffa i lawr y grisiau yn yr ystafell fyw. Mae cegin llawn offer â pheiriant golchi ac oergell-rhewgell ac mae cwrt bach allanol i fyni 4 gris.
Bydd gennych ddefnydd llawn o'r tŷ a'r ardd breifat. Mae yna hefyd Wi-Fi a digon o barcio ar y stryd.
Os ydych chi'n chwilio am antur yna beth am roi cynnig ar Ganolfan BikePark, Rock UK, Canolfan Awyr Agored Parkwood neu ZipWorld sydd i gyd o fewn 15 - 20 munud yn y car.
Mae'r ysgubor yn cynnig lleoliad perffaith i fwynhau'r gorau o dde Cymru. Dim ond 15 munud yn y car i odrau Pen y Fan neu 25 munud o daith i’r pedwar sgwd yn Ystradfellte a’r llwybrau cerdded.
The Barn, 32 Stryd Masnach, Bedlinog, Merthyr Tudful. CF46 6RE