Croeso i Tŷ Cartrefol. Mae’n dŷ clud, 3 ystafell wely, traddodiadol mewn teras. Mae’n lleoliad gwych ar gyfer seiclwyr, cerddwyr a theuluoedd.
Mae gennym dair ystafell wely fawr; 1 ystafell ddwbl a 2 ystafell sydd â dau wely sengl. Mae ystafell fyw/ystafell fwyta a chegin fawr sydd yn cynnwys y cyfleusterau i gyd a’r cyfan sydd ei angen ar gyfer eich arhosiad. Mae yma bopty, hob, microdon, peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell, tegell, tostiwr, peiriant coffi ac oerwr dŵr yn ystod misoedd yr haf. Yn yr ystafell ymolchi, mae baddon a chawod bwerus i chi eu mwynhau.
Ar gyfer y rheini sydd am fwynhau gweithgareddau awyr agored yr ardal, mae gennym garej sydd â drysau trydanol ar gyfer storio. Mae yma adnoddau i olchi beiciau a raciau storio a sychu ar y waliau. Er mwyn eich diogelwch, mae system CCTV yn y garej.
Neu, gallwch ymlacio wedi diwrnod caled yn ein hardal allanol a barbeciw tra’n gwrando ar hen gerddoriaeth finyl.