Ystafelloedd: 1
Prisiau o £100
Mae 3 set o wlâu bync yn y tŷ bync, gyda 2 ystafell en-suite / toiled preifat, wedi eu cysylltu gan ardal sinc fawr. Rydym yn darparu cyfleusterau darparu te, coffi a grawnfwyd (oergell yn yr ystafell). Mae gan y tŷ bync hefyd ardal eistedd/ ymlacio. Caiff tywelion glân eu darparu hefyd.
Mae gan y tŷ bync ei fynedfa ei hun ac mae wedi ei leoli uwch ben Tafarn Glyn Taf ble gallwch fwynhau pryd o fwyd hyfryd a diod o flaen tanllwyth o dân neu wylio’r haul yn machlud ar Deras yr Haul.
Mae’r tŷ bync yn darparu Wi-Fi cyflym iawn am ddim a pharcio am ddim gyda diogelwch CCTV.
Gellir storio beics ac yn y blaen yn selar y dafarn ble ceir larwm hefyd. Dim ond ychydig o funudau o daith gerdded ydym ni o Daith Taf. Mae hwn yn lleoliad perffaith i seiclwyr a cherddwyr.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025