Ystafelloedd: 2
Mae'r byncws eang hwn yn cysgu 10 ac mae wedi ei leoli wrth ymyl Llwybr Taf a llai na 10 munud o Bike Park Wales. Rydym yn ganolog ac o fewn pellter cerdded i ganol tref Merthyr er mwyn mwynhau'r holl gaffis, bwytai, bowlio 10, sinema a’r holl amwynderau sydd gan y dref i'w cynnig.
Mae'r eiddo hwn yn cynnwys ystafell wely ddwbl gyda'i ensuite ei hun, tra bod yr ail ystafell wely yn cynnig 3 gwely bync, ynghyd â gwely soffa yn yr ardal fyw ac ail ystafell ymolchi. Mae hyn yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau a theuluoedd mwy gan fod lle i 10 o westeion. Mae'r fflat hwn mewn lleoliad da i barc Cyfarthfa, Bannau Brycheiniog gyda mynediad hawdd i Gaerdydd trwy'r A470.
Mae'r eiddo hwn yn berffaith ar gyfer rhai sy’n mwynhau yr awyr agored, yn enwedig y rhai sydd am gael mynediad i Bike Park Wales, gan fod gan westeion fynediad i'w garej eu hunain a all ddarparu ar gyfer 8 beic ar raciau gyda theledu cylch cyfyng.
Nodweddion allweddol
- 2 Ystafell Wely: 1 gyda gwely dwbl, 1 gyda 3 gwely bync ac 1 gwely soffa- 2 Ystafell ymolchi: Ystafell ymolchi lawn gyda chawod ac en-suite wedi'i chysylltu â'r brif ystafell wely- Lolfa eang gyda digon o seddi- Cegin llawn offer ar gyfer paratoi prydau bwyd- Lle garej i storio beiciau ac unrhyw eitemau personol- Ardal fwyta awyr agored a barbeciw- Piben ar gyfer golchi beiciau- Man Preifat: fflat ar wahân gan sicrhau preifatrwydd' i’r grwp cyfan