Neidio i'r prif gynnwy

Ysgybor Bach

Os ydych chi’n chwilio am lety fforddiadwy yng nghalon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yna does dim angen chwilio ymhellach. Gall i fyny at 26 o westeion gysgu yma yn y 5 ystafell wely. Mae’n cegin fasnachol ddur gwrthstaen yn llawn offer a cheir man bwyta agored gyda lle cyfforddus i eistedd gan roi’r profiad o gartref oddi cartref i’n gwesteion.

 

Mae Tŷ Bync Coed Owen a Llety Ysgubor Fach tua 2.5 awr o daith gerdded i Ben Y Fan sef mynydd uchaf De Cymru a phegwn uchaf De Prydain sy’n cynnig y golygfeydd panoramig gorau yng Nghymru.

 

Gall Ysgubor Fach gysgu hyd at 10 o westeion mewn 3 ystafell wely ac mae cegin hyfryd yno ac ystafell eistedd/fwyta gyda thân llosgi pren ar gyfer y nosweithiau clyd yna a sgyrsiau’n hwyr i’r nos.

 

Mae Coed Owen a Ysgubor Fach yn llefydd grêt ar gyfer parti plu, stag neu ddathliad i’r teulu. Rydym yn argymell yn gryf ein darparwyr gweithgareddau awyr agored lleol ar gyfer y gwesteion hynny sy’n ddibynnol ar adrenalin, neu os mai heddwch a thawelwch yw’ch dymuniad yna dyma’r lle i chi aros ynddo hefyd.

 

Mae gennym fynediad uniongyrchol i’r mynydd o’n fferm felly mae’n ddigon hawdd cyrraedd at Ben Y Fan.

 

Fforiwch harddwch naturiol Gwlad y Sgydau gyda rhaeadrau a golygfeydd ysblennydd.

 

Mae Bike Park Wales yn daith yrru o 10 munud ac mae tref hanesyddol Merthyr Tudful , sy’n enwog am ei threftadaeth ddiwydiannol, yn werth ymweld â hi. Mae Wisgi Penderyn a thref Aberhonddu hyfryd i gyd o fewn cyrraedd i ni.

 

Mae digon o wagle awyr agored i blant gennym, ardal barbeciw ac adeilad ar wahân gyda stof llosgi pren ar gyfer  sgyrsiau clyd yn hwyr i’r nos. Dim ond rhyw 5 munud o daith gerdded yw Gwesty Nantddu Lodge ble gweinir bwyd grêt a chwrw da.

 

Mae digon o wagle parcio ceir gennym a chyfleusterau cloi diogel ar gyfer beics a chanŵs.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025