Gwe 06/Medi/2024 - 19:30 - 22:30
The Comedy Club of Love – Medi
Dydd Gwner 6 Medi 2024 am 7:30pm ac yn gorffen am 10:30pm
Clwb Llafur Merthyr, Merthyr Tudful, DU - Map
Mae’r Comedy Club of Love yn dychwelyd fis Medi gyda rhai o gomediwyr gorau’r DU a hynny mewn lleoliad lleol, gwych!
Yn ymuno â ni y mis hwn, mae:
NINIA BENJAMIN
Ninia Benjamin yw un o gomediwyr benywaidd gorau’r DU ac mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y byd teledu, ar lwyfan ac yn gwneud stand-up, byw.
Daeth Ninia i enwogrwydd fel un o’r 3 Non-Blondes ar BBC 3 a drosglwyddodd i BBC2 a BBC America cyn i’r ail gyfres gael ei dangos yn rhyngwladol. Wedi hyn, cafodd ei thalentau eu harddangos mewn amryw o roliau ar sianelu’r DU, fel cyflwynydd, gwestai stiwdio, actores a seren rhaglenni realiti.
Mae ganddi synnwyr digrifwch a phresenoldeb gwych ac mae Ninia yn westai a sylwebydd poblogaidd ar nifer o sioeau trafod, er enghraifft Sky Comedy Close Up. Mae ymddangosiadau diweddar eraill yn cynnwys Total Wipeout a Celebrity Masterchef ac mae modd clywed ei thalent lleisiol ar Tinga Tinga Tales ar Cebeebies.
EDDY BRIMSON
Mae Eddy Brimson yn geezer ac yn un doniol iawn ond mae hefyd yn fwy na hynny. Dros y blynyddoedd diwethaf, Eddy o Watford (ac mae ei acen yn dyst i hynny) yw un o gomediwyr mwyaf diddorol a myfyrgar y gylched stand-up.
Mae’n arbenigo yn yr hyn y mae’n ei alw’n “arsylwi brwnt” a gellir gweld Eddy Brimson yn rheolaidd yn lleoliadau mwyaf blaenllaw y wlad. Mae hefyd yn hen gyfaill i’r Comedy Club.
Fel un o brif gomediwyr Prydain, dychwelodd Eddy’n ddiweddar o gyfres o sioeau yn Awstralia a bu’n perfformio ei sioe i blant yn y Camden Fringe ac yng Nghaeredin fel rhan o Midnight at the Gilded Balloon show. Bu hefyd yn yr Ŵyl Altitude gyntaf yn yr Alpau yn Ffrainc yn 2008 ac yng Ngŵyl Cracker yn Sydney, Awstralia. Mae Eddy hefyd wedi teithio, gyda’i gomedi i Hong Kong, Singapore, Thailand, Dubai, Abu Dhabi a Bahrain.
“Yn syml, mae’n hollol wych” - Sky "
“Eddy Brimson doesn't muck about" - Three Weeks.
"Roedd y dorf yn dwli arno” - The Guardian
Bydd sêr newydd hefyd yn cefnogi’r noson.
Cyflwynir gan DREW TAYLOR
Cyfyngiadau oed:18+
Amseroedd agor y lleoliad:6:00pm- 11:00pm
Teithio a pharcio:Parcio gerllaw am ddim wedi 6pm. Taith fer, ar droed o’r orsaf fysiau a threnau.
£10
https://www.jokepit.com/comedy-in/merthyr-tydfil/the-comedy-club-of-love-september/12014