Gwe 10/Meh/2022 - Sul 12/Meh/2022
Ynghylch Gwrthryfel Merthyr 2022
Mae yn ei ôl ar gyfer 2022 – Fe godwn eto!
Mae Gŵyl Merthyr Rising yn ŵyl gerddorol a chelfyddydol sydd yn trafod syniadau ac sydd yn ddathliad o ddiwylliant y dosbarth gweithiol a’r gwrthryfel. Dyma fan geni’r faner goch. Rydym yn ŵyl drefol sydd wedi ei lleoli yn Sgwâr Penderyn ym Merthyr.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal i nodi un o’r gwrthryfeloedd cyntaf erioed a drefnwyd gan weithwyr ym 1831, yr hyn sydd yn cael ei adnabod yn Wrthryfel Merthyr. Gwrthryfel Merthyr ym 1831 oedd penllanw gwaedlyd nifer o flynydoedd o galedu i’r boblogaeth ddosbarth gweithiol ym Merthyr. Credir mai dyma’r tro cyntaf i faner goch y gwrthryfel gael ei defnyddio fel symbol o safiad y gweithwyr.
Heddiw, rydym yn dathlu’r digwyddiad yn flynyddol er mwyn coffau digwyddiadau 1831 a hynny mewn gŵyl ddiwylliannol sydd yn cynnwys cerddoriaeth, y celfyddydau, trafodaethau gwleidyddol a rhannu syniadau.
Rhagor o wybodaeth ynghylch pwy fydd yn ymddangos, amserlen a thocynnau i ddilyn -
Wedi'i ddiweddaru - Llun - 25 / Ebr / 22