wedi adio - Maw - 12 / Ion / 21

Ynghylch Bydd Cynllun Cyfarthfa yn datgelu pwysigrwydd byd-eang crwsibl y chwyldro diwydiannol ac yn gweithio mewn cytgord â natur

Bydd Cynllun Cyfarthfa yn datgelu pwysigrwydd byd-eang crwsibl y chwyldro diwydiannol ac yn gweithio mewn cytgord â natur

 

Yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw, gallai cynlluniau i drawsnewid Castell Cyfarthfa Merthyr Tudful yn amgueddfa o ansawdd rhyngwladol a leolir mewn parc cyhoeddus 100 hectar estynedig, ddenu mwy na hanner miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac “ymegnïo cysyniad Parc Rhanbarthol y Cymoedd”.

 

Dywed yr adroddiad y byddai’r cynllun yn ‘agor penodau newydd o ran twristiaeth Cymru, a’i datblygiad cymunedol a diwylliannol a chynaliadwyedd’ a ‘chreu prosiect enghreifftiol i arddangos grym ac effeithiolrwydd agenda Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol’.

 

Mae Cynllun Cyfarthfa, sy’n rhychwantu 20 mlynedd, yn ganlyniad i 12 mis o waith tîm dan arweiniad y penseiri o fri, Ian Ritchie Architects. Comisiynwyd y cynllun gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac mae eisoes wedi cael ei gymeradwyo’n unfrydol.

 

Darllenwch fwy yma  

 

 

Ffurfiwyd cwmni newydd – Sefydliad Cyfarthfa – i symud y cynllun yn ei flaen ac mae’n ceisio cael statws elusennol ar hyn o bryd. Cafodd y cynlluniau hefyd eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog dros Economi a Thrafnidiaeth a Chadeirydd Gweithlu’r Cymoedd: “Gallai’r cynlluniau a gyflwynwyd arwain at Gastell a Pharc Cyfarthfa’n dyfod yn brif atyniad ac yn wagle gwyrdd pwysig i breswylwyr ac ymwelwyr ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod. Rydym wedi darparu nawdd i’r parc fel rhan o Borth Darganfod Parciau Rhanbarthol y Cymoedd.

 

“Rwy’n diolch i bawb am eu gwaith gyda hyn hyd yma, ac rwyf wedi cael anogaeth yn benodol o’r ffaith fod ethos y prosiect hwn yn un sydd ag ‘ymagwedd hir dymor at adfywio o’r gwaelod i fyny, dan arweiniad cymuned’. Mae hyn yn adleisio Gweithlu’r Cymoedd a Cadw yn berffaith. Byddwn ni’n ystyried manylion y cynigion hyn nawr”. 

 

Mae’r adroddiad yn cyflwyno cynllun triphlyg ar gyfer y castell a ‘Pharc Cyfarthfa Mwyaf’ a fydd yn

 

  • “dathlu hanes a threftadaeth unigryw Merthyr Tudful, fel sbardun i adnewyddiad cymdeithasol

 

  • “dathlu a gwella’r amgylchedd naturiol i ddarparu lleoliad prydferth ar gyfer hamdden, addysg a chynnydd gwyddonol

 

  • “creu injan o greadigrwydd a all gofleidio’r gymuned i gyd”.

 

Mae’n datgan: “Byddai gwireddu’r cynigion hyn yn newid safbwynt gweddill y byd am Ferthyr Tudful a chymunedau eraill y Cymoedd. Byddai’n ymegnïo cysyniad Parc Rhanbarthol y Cymoedd drwy roi iddo graidd o wir raddfa ac effaith. 

 

“Byddai hefyd yn dod â rhywbeth newydd a chymhellol i economi’r Brif-ddinas Ranbarth, mewn ardal o angen mawr, ag iddo agenda clir o ddiben cymdeithasol”. 

 

Mae’r adroddiad yn cyflwyno rhestr o fwy na 70 o brosiectau posibl wedi eu rhannu’n gategorïau: ‘rhaid gwneud’, ‘dylid gwneud’ a ‘gellir gwneud’. Ymhlith y cynigion allweddol mae: 

 

  • Bron dyblu maint presennol Parc Cyfarthfa, estyniad tua’r gorllewin gan gynnwys dwy ochr Afon Taf, a ‘gwella tirlun clwyfedig’.

 

  • Adnewyddu Castell Cyfarthfa – cartref y Crawshays, meistri haearn enwog y 19eg ganrif – a chreu orielau arddangos newydd a fydd yn dathlu hanes diwydiannol a chymdeithasol Merthyr Tudful yng Nghymru.

 

  • Achub ffwrneisiau 200 mlwydd oed Cyfarthfa i’r gorllewin o Afon Taf, heneb gofrestredig o bwysigrwydd byd-eang, ond sydd mewn perygl ar hyn o bryd.

 

  • ‘Ffordd Haearn’ newydd – llwybr cerdded dramatig ar lefel uchel yn cysylltu’r castell a’r ffwrneisiau, i adleisio traphont ddŵr o’r 19eg ganrif, a oedd yn pontio’r dyffryn.

 

  • Mynedfa newydd ‘Porth Wydr’ drwy’r parc at ran ddwyreiniol y castell – yn cynnwys dau dŷ gwydr enfawr – mae diamedr 50 medr i’r mwyaf – gan atseinio tai gwydr y castell yn y 19eg ganrif sydd bellach wedi diflannu.

 

  • Datblygu adeiladau Fferm y Pandy gyferbyn â’r fynedfa i’r castell fel gwir ased cymunedol, yn cynnig cyflogaeth go iawn a safleoedd gwaith.

 

  • Gardd lysiau gymunedol wyth erw - a allai hefyd gynhyrchu cynnyrch i allfeydd newydd yn y castell - ynghyd â chreu dolydd bioamrywiol.

 

 

Mae’r cynllun hefyd yn gosod pwyslais cryf ar addysg. Mae’n cynnig ‘canolfan cyd-greu’ yn y castell i ymestyn rhaglen addysg y castell a’i raglen allgymorth, tra bo safle yn cael ei gadw ger cydlifiad afonydd Taf a Thaf Fechan ar gyfer sefydliad amgylcheddol newydd posibl y gellir ei gysylltu â sefydliad addysg uwch.

 

Dywedodd Jonathan Shaw, arweinydd prosiect Ian Ritchie Architects,: “Cynllun strategol 20 mlynedd yw hwn a fydd yn datgelu pwysigrwydd byd-eang gorffennol diwydiannol Merthyr Tudful a gweithio mewn cytgord â natur i drawsnewid ardal Cyfarthfa.

 

“Dylai’r prosiect dyfu ochr yn ochr â bywydau’r genhedlaeth ieuengaf wrth iddynt dyfu’n oedolion. Rydym wedi datblygu’r cynlluniau hyn yn dilyn ymgynghoriad helaeth ag ysgolion, pobl ifanc a sefydliadau cymunedol ym Merthyr. 

 

“Mae’n tynnu ar hanes dihafal cymdeithasol, gwleidyddol a diwydiannol Merthyr Tudful a Chymru, ei safle fel porth deheuol i Fannau Brycheiniog, a’i safle canolog ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd ehangach,” ychwanegodd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Adfywio: “Adroddiad gweledigaethol yw hwn sy’n disgrifio trawsnewidiad a fydd o werth anferthol i Ferthyr Tudful, i ardal blaenau’r cymoedd a Chymru gyfan. Y mae’n dathlu penodau pwysig yn ein gorffennol cenedlaethol, ond mae ei bwyslais yn gadarn ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol.” 

 

Dywedodd Geraint Talfan Davies, a fydd yn cadeirio Sefydliad Cyfarthfa: “Mae tîm Ian Ritchie wedi cynhyrchu adroddiad hynod o gyffrous a chyfoethog sy’n agor amryw o gyfleoedd i ddefnyddio ein gorffennol, a stori Merthyr yn benodol, fel man cychwyn i fynd i’r afael â heriau’r 21ain ganrif. Mae hwn yn brosiect o bwysigrwydd cenedlaethol yn ogystal â lleol.” 

 

Dywedodd Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: “Mae’r comisiwn wedi bod yn ymgysylltu’n agos o ran esblygiad y cynllun hwn, ac rydym wrth ein boddau oherwydd nid yn unig yw canlyniad terfynol pedair blynedd, bron, o gydweithio yn gasgliad o gynigion o ansawdd ac uchelgais, ond y mae hefyd yn gynllun sy’n seiliedig ar werthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol da. Bydd yn bwysig dal gafael ar y gwerthoedd a’r safonau hynny wrth i’r cynlluniau gael eu gwireddu.” 

Wedi'i ddiweddaru - Maw - 12 / Ion / 21