Yn 2025, mae Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, Cymru yn dathlu ei deucanmlwyddiant.
Yn ystod 2025, cynhelir digwyddiadau a gweithgareddau rhaglen gyfarthfa200 i dynnu sylw at bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol safle Cyfarthfa, ac i ddathlu hanes y bobl a'r cymunedau a'i gwnaeth.
Fel rhan o Cyfarthfa200, mae'r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghyngor Merthyr Tudful wedi creu marcwyr defnyddiol i helpu i lywio'r ffordd i Barc a Chastell Cyfarthfa.
Mae'r marcwyr C200 yn mynd o;
Os ydych chi'n ceisio dod o hyd i'ch ffordd i weithgaredd, yn ymweld â'r amgueddfa neu dim ond eisiau mynd am dro yn y parc hardd, dilynwch y marcwyr sy'n eich tywys.
Mae mis Mai hefyd yn Fis Cerdded Cenedlaethol, felly dyma'r amser perffaith i gerdded neu seiclo i'r awyr agored a chofleidio byd natur yn ei holl ogoniant!
Wedi'i adeiladu ym 1825 fel cartref teuluol mawreddog i'r Meistr Haearn William Crawshay II, Castell Cyfarthfa yw trysor pennaf Merthyr Tudful. Ymunwch â'r miloedd o bobl, sydd bob blwyddyn, yn mwynhau ymweliad â'r castell a'i erddi eang, y llyn, ardal chwarae a gweithgareddau eraill.
Gallwch ddarganfod mwy am holl ddigwyddiadau dathlu Cyfarthfa200 ar wefan Croeso Merthyr yma. Cymrwch gip o dro i dro gan y bydd mwy a mwy o ddigwyddiadau yn cael eu hychwanegu trwy gydol y flwyddyn.