Neidio i'r prif gynnwy

Tîm o enwogion o’r byd chwaraeon, teledu a’r cyfryngau cymdeithasol

Cwrdd â rhai o'ch hoff sêr wrth gefnogi achos hynod bwysig.

 

Ddydd Sul, 4 Mai 2025, bydd Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yn cynnal gêm bêl-droed elusennol unigryw sy'n cyfuno adloniant, hiwmor ac achos difrifol, gan godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng iechyd meddwl sy'n wynebu'r diwydiant adeiladu. Bydd y digwyddiad yn cynnwys tîm enwog o’r byd chwaraeon, teledu a'r cyfryngau cymdeithasol, dan arweiniad cyn-chwaraewr Abertawe a threfnydd y digwyddiad, Lee Trundle. Yn ymuno ag ef ar y tîm bydd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Joe Ledley sydd wedi chwarae i glybiau fel Celtic a Dinas Caerdydd, Adebayo Akinfenwa sy'n adnabyddus am ei bresenoldeb pwerus ar y cae a'i ddilyniant cyfryngau cymdeithasol a Wes Brown, cyn-chwaraewr Manchester United. Byddant yn wynebu tîm o "enwogion y byd masnach" – personoliaethau dylanwadol ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi â miliynau o ddilynwyr am eu portreadau perthnasol a doniol ar fywyd yn y maes adeiladu.

 

 

Dywedodd Dan Richards, sgaffaldwr ac un o'r prif drefnwyr sy'n adnabyddus am ei hiwmor: "Hiwmor yw fy mecanwaith ymdopi, ac rwy'n gwybod ei fod yn helpu llawer o bobl yn y diwydiant hefyd, efallai na fydd pobl yn disgwyl i mi gymryd safiad difrifol ar iechyd meddwl, ond dyna'n union pam rydyn ni'n gwneud hyn. Mae'n bryd torri'r stigma a siarad am y materion go iawn. Byddwn ni'n dal i gael chwerthin, ond mae angen i ni ddangos ei bod hi'n iawn ein bod yn cymryd iechyd meddwl o ddifri."

 

Cynlluniwyd y digwyddiad mewn ymateb i'r ystadegau brawychus sy'n dangos bod gweithwyr adeiladu bedair gwaith yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain na'r boblogaeth gyffredinol. Y drasiedi hon oedd y sbardun i drefnu’r digwyddiad, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth a sbarduno sgwrs am iechyd meddwl yn y diwydiant adeiladu.

 

Yn anffodus, ychydig ddyddiau yn ôl, cafodd y trefnwyr eu taro gan y newyddion torcalonnus bod Marcus Rees, cyd-sgaffaldwr a ffrind, wedi cymryd ei fywyd ei hun. Bu Marcus yn gweithio ochr yn ochr â'r trefnwyr ac mae ei golled wedi dwyshau’r achos.

 

"Roedd Marcus yn un ohonom," meddai Dan Richards. "Mae ei farwolaeth yn atgo pam fod y digwyddiad hwn mor bwysig. Fe wnaethon ni ddechrau'r fenter hon i godi ymwybyddiaeth, a nawr, mae hyd yn oed yn fwy personol. Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer Marcus, ac i bob gweithiwr adeiladu a allai fod yn cael trafferth ac yn teimlo fel nad oes ganddyn nhw neb i droi ato."

 

Rhannodd Lee Trundle, eiriolwr dros ddigwyddiadau elusennol ei feddyliau: "Rydw i wedi bod yn rhan o drefnu nifer o fentrau codi arian a gemau pêl-droed elusennol dros y blynyddoedd, ac rydw i wedi gweld y gwahaniaeth anhygoel y mae'r digwyddiadau hyn yn eu gwneud. Pan gysylltodd Dan â mi ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl yn y diwydiant adeiladu, doeddwn i ddim am oedi cyn cymryd rhan. Ar ôl colli Marcus, rydw i hyd yn oed yn fwy ymrwymedig i helpu i wneud gwahaniaeth."

 

Bydd y digwyddiad yn cefnogi Mind CTM, elusen sydd wedi bod yn darparu cymorth iechyd meddwl ym Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr ers 40 mlynedd.

 

Dywedodd Kieran Harris, Prif Weithredwr Mind Cwm Taf Morgannwg: "Mae ystadegau'n dangos bod gweithwyr adeiladu mewn perygl sylweddol uwch o hunanladdiad, gyda rhai astudiaethau'n dangos eu bod hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain na'r boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen brys am fwy o sgyrsiau a chefnogaeth ynghylch iechyd meddwl yn y diwydiant. Mae'r gêm bêl-droed elusennol hon yn gyfle anhygoel i daflu goleuni ar y mater hwn, codi ymwybyddiaeth a chwalu'r stigma sy'n rhy aml yn amgylchynu iechyd meddwl. Yn Mind Cwm Taf Morgannwg, rydym yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiad hwn, gan ei fod nid yn unig yn darparu llwyfan i godi arian hanfodol ar gyfer cymorth iechyd meddwl ond hefyd yn cynnig cyfle i atgoffa pawb yn y diwydiant nad oes rhaid iddynt ddioddef yn dawel."

Bydd y diwrnod yn llawn adlonia

nt sy'n addas i deuluoedd, gan gynnwys cyfleoedd cwrdd ag enwogion o fyd chwaraeon, cerddoriaeth, teledu a’r cyfryngau cymdeithasol. Dyma'ch cyfle i gwrdd â rhai o'ch hoff sêr wrth ddangos eich cefnogaeth at achos anhygoel o bwysig.

 

Sut y gallwch chi gymryd rhan:

Prynu Tocynnau: 

Peidiwch â cholli allan ar ddiwrnod llawn hwyl, er budd achos gwych. Mae prynu tocyn yn help i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer mentrau iechyd meddwl yn y diwydiant adeiladu. Brysiwch - mae tocynnau’n gwerthu'n gyflym!Tocynnau Gêm Bêl-droed Elusennol Trade Legends - Parc Pen-y-Darren, Merthyr Tudful | Tocyn 24/7

 

Noddi'r Digwyddiad:Cwmnïau adeiladu, dyma eich cyfle i gael effaith barhaol. Trwy noddi'r digwyddiad hwn, rydych nid yn unig yn dangos eich ymrwymiad i wella iechyd meddwl yn y diwydiant ond hefyd yn cysylltu â chynulleidfa eang o gefnogwyr. Cysylltwch â ni heddiw i drafod cyfleoedd nawdd a dod yn rhan o'r mudiad dros newid.

 

Pecynnau nawdd cyfyngedig ar ôl. Cyswllt: callum@macauley-marketing.co.uk

 

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghlwb Pêl-droed Tref Merthyr ac anogir pawb i fynychu. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth, sbarduno sgyrsiau a thorri'r distawrwydd ynghylch iechyd meddwl yn y diwydiant adeiladu.

Am gymorth iechyd meddwl ym Merthyr, Rhondda Cynon Taf, neu Ben-y-bont ar Ogwr:

Mind CTMFfôn: 01685 721 303E-bost: info@ctmmind.org.uk

 

Gwefan: www.ctmmind.org.uk

 

I gael cymorth iechyd meddwl y tu allan i ardal CTM, cysylltwch â:Mind Cymru

 

Ffôn: 0300 123 9796

 

Neges-destun: 86463

 

E-bost: info@mind.org.ukGwefan: www.mind.org.uk

 

 

Ynglŷn â Mind CTM

Mae Mind CTM yn elusen sy'n ymroddedig i gefnogi iechyd meddwl a lles unigolion ym Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr. Gyda 40 mlynedd o brofiad mewn lleihau stigma a darparu mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, mae Mind CTM yn angerddol am sicrhau bod pawb yn y gymuned yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn gallu canfod y cymorth angenrheidiol. 

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025