Llethr sgïo hiraf y DU yn cael ei ganiatau mewn cynllun 'sy’n newid pethau'

Heno, rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer Gorllewin Rhyd-y-car, ar ôl cymeradwyaeth gan y pwyllgor cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a golau gwyrdd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2025.

Mae hyn yn garreg filltir bwysig o ran darparu cyrchfan chwaraeon a hamdden o'r radd flaenaf - a fydd yn flaenllaw i Gymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

Dywedodd Ali Tyebkhan, Prif Swyddog Gweithredol Gorllewin Rhyd-y-car:

"Mae hon yn foment anhygoel. Mae'n nodi penllanw blynyddoedd lawer o waith caled yn ogystal ag amynedd. Diolch i'n holl dîm, partneriaid, cefnogwyr a'r gymuned leol – ni allem fod wedi gwneud hyn heb eich cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd. Rydym yn gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen at y camau nesaf o waith a chyflawni'tblygiad."

 

Heddiw, dydd Mercher Ionawr 7fed 2026, cyfarfu'r pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu i drafod datblygiad arfaethedig Gorllewin Rhyd-y-car ym Merthyr Tudful, gan arwain at  yr holl aelodau yn pleidleisio yn erbyn yr argymhelliad i wrthod y cais, a phleidleisio o blaid y datblygiad.


Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Brent Carter;
"Heb os, mae Gorllewin Rhyd-y-car yn arloesol ac yn newid gêm llwyr i Ferthyr Tudful, gan ategu cynigion Parc Beicio Cymru, Zip World a Chanolfan Ddringo Rock UK.

"Bydd y prosiect hwn yn cefnogi ac yn rhoi hwb i'n heconomi ac yn cynnig cyfleoedd lluosog i'n cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae'r gefnogaeth i Orllewin Rhyd-y-car wedi bod yn wirioneddol anhygoel. Rydw i wrth fy modd."