Ydych chi’n barod i ddarganfod? Mae cymaint i’w wneud ac i’w fwynhau yn nhref Merthyr Tudful ac o’i hamgylch. Cewch gipolwg o’n gorffennol, profi gwefr yr adrenalin, gweld arddangosfa neu sioe, brasgamu ar hyd ein llwybrau neu fwynhau ennyd dawel – gallwch wneud pob un ohonynt ym Merthyr Tudful.