Hyd at ganol y 1990au, roedd yn safle pori dwys a phlanwyd coed brodorol ar y llethrau isaf. Mae’r coed, erbyn hyn wedi aeddfedu ac yn gymorth i guddio creithiau’r pyllau.

 

Mae’r siâl sy’n ffurfio’r pridd uchaf yn cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau glastiroedd blodeuog, brodorol sy’n cynnwys mefus gwyllt, briallu Mair, bysedd y cŵm a theim gwyllt ac mae llystyfiant a rywogaethau o brysgwydd a rhagor o goed yn prysur orchuddio’r safle.

 

Gellir gweld golygfeydd godidog o Gymoedd Taf a Chynon o’r copa yn ogystal â llinell hen Gamlas Sir Forgannwg.

 

Gellir mynd ar gylchdaith drwy Bont-y-Gwaith a Mynwent y Crynwyr o Gefn Glas gan ddefnyddio Llwybrau Taf a Trevithick. Mae’r copa yn arwain at garn posib ar safle’r hen bwynt trig.