Er gwaetha’r ffaith, ar yr olwg gyntaf ei fod yn ymddangos yn ddiffaith, mae mwy o lawer yn perthyn i Gelligaer. Mae ei hanes cymhleth o ffaith a chwedl wedi gadael olion Rhufeinig a Chanol Oesol diddorol.
Ymysg yr uchafbwyntiau mae tomen gladdu megalithig yng Ngharn Bugail, Maen Cen Gelligaer a gweddillion Capel Gwladys, sef mam y Merthyr, Tudful, a dyma felly darddiad yr enw, Merthyr Tudful.
Tirwedd uchel yn y De-ddwyrain yw comin Gelli-gaer a Merthyr, a hynny ar y ffin rhwng bwrdeistrefi sirol Merthyr Tudful a Chaerffili. Mae’r Comin yn dirwedd sy’n cynnal bywyd a gwaith, ac mae wedi’I thrwytho mewn hanes.
Fe’I dynodwyd yn Dirwedd Hanesyddol gan Cadw am fod y tir yn dangos olion defnydd a gweithgaredd parhaus o gynhanes I’r gorffennol diweddar.